Gall uwchraddio o wydr sengl i wydr dwbl neu driphlyg fod yn ddrud a gall gymryd dros 20 mlynedd i dalu'r costau cyfalaf yn ôl wrth ystyried yr arbediad ynni yn unig. Fodd bynnag, mae angen ail-baentio ffenestri pren neu fetel bob pum neu saith mlynedd, felly bydd gosod ffenestri gwydr dwbl neu driphlyg cyfansawdd modern yn eu lle yn arbed costau cynnal a chadw. Os yw eich ystafelloedd dosbarth yn oer, efallai y byddai gosod ffenestri newydd yn lle uwchraddio eich system wresogi yn rhatach.
Os ydych yn gosod gwydr newydd, gofynnwch i’ch contractwyr beth yw gwerth ‘U’ eu ffenestri a mynnwch y dylai ffenestri gwydr dwbl fod yn is na 1.4W/m2/K. Efallai na fydd yn werth gosod gwydr triphlyg (oni bai am insiwleiddio sŵn) gan nad yw costau ychwanegol gosod gwydr triphlyg yn rhoi llawer o fudd dros wydr dwbl o ansawdd da.