Mae gan y rhan fwyaf o foeleri ysgol osodiadau amddiffyn rhag rhew. Gellir eu ffurfweddu i droi'r gwres ymlaen ar lefel isel i amddiffyn pibellau dŵr poeth ac oer rhag difrod rhew pan fo'r tymheredd yn is na 4°C y tu allan a'r ysgol yn wag, er enghraifft ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau.
Mae'n llawer mwy effeithlon sicrhau bod eich amddiffyniad rhag rhew yn gweithio na gadael eich gwres ymlaen dros y penwythnosau ac yn ystod gwyliau os ydych chi'n poeni am ddifrod gan rew. Fel arfer, dim ond pan fydd y tymheredd y tu allan yn is na 4°C a'r tymheredd y tu mewn wedi gostwng o dan 8°C y bydd amddiffyniad rhag rhew yn dod ymlaen, yn hytrach na gadael eich system wresogi ymlaen ar 20°C waeth beth fo'r tywydd tu allan yn ystod y gwyliau.
Os oes gennych amddiffyniad rhag rhew wedi'i alluogi, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i ffurfweddu'n effeithlon:
- dim ond os yw'r tymheredd y tu allan yn disgyn o dan 4°C
- ac mae'r tymheredd y tu mewn yn disgyn o dan 8°C y mae angen iddo ddod ymlaen (gwerth ceidwadol i osgoi bod rhannau o'r ysgol i ffwrdd o'r thermostat yn disgyn o dan 4°C)