Diffoddwyd dŵr poeth ar benwythnosau

Gall gwresogi dŵr poeth ddefnyddio 40% o ddefnydd cyffredinol ysgol o nwy, diffoddwch ar y penwythnos i arbed ynni

30 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Mae 50% o nwy ysgolion yn cael ei ddefnyddio pan fyddant ar gau. Mae hyn yn wastraffus iawn ac yn cynrychioli'r cyfle hawsaf i arbed ynni.

Mae dŵr poeth a gyflenwir gan foeleri nwy yn rhyfeddol o aneffeithlon mewn ysgolion. Ar gyfartaledd, dim ond 15% yn effeithlon y mae ysgolion ar Sbarcynni o ran darparu dŵr poeth. Mae hyn oherwydd, er mwyn danfon dŵr yn gyflym i dapiau, mae dŵr poeth yn cylchredeg yn barhaus ar rwydwaith o amgylch yr ysgol a elwir yn ‘system dŵr poeth cylchredol.’ Hyd yn oed os yw’r rhwydwaith hwn wedi’i inswleiddio’n dda, mae’n colli gwres yn barhaus. O ganlyniad, mae'r nwy a ddefnyddir i gynhesu dŵr poeth yn aneffeithlon iawn. Ar gyfartaledd, mae gwresogi dŵr poeth yn defnyddio 40% o ddefnydd cyffredinol ysgol o nwy. 

Ateb tymor byr yw sicrhau mai dim ond yn ystod y diwrnod ysgol y mae dŵr poeth yn cylchredeg ac yn cael ei ddiffodd y tu allan i oriau, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau (yn amodol ar fflysio Legionella ar ddiwedd gwyliau hir).

Opsiwn hirdymor yw disodli'r system dŵr poeth gyda gwresogyddion dŵr trydan pwynt defnyddio a all fod yn llawer mwy effeithlon.

Mae siartiau Sbarcynni yn eich galluogi i ddarganfod a yw nwy yn cael ei ddefnyddio ar benwythnosau. Gallwch chi ddrilio i lawr ar y rhan fwyaf o siartiau drwy glicio ar y graffiau. Edrychwch ar benwythnos diweddar, oedd y nwy ymlaen?