Mae dŵr poeth a gyflenwir gan foeleri nwy yn rhyfeddol o aneffeithlon mewn ysgolion. Ar gyfartaledd, dim ond 15% yn effeithlon y mae ysgolion ar Sbarcynni yn darparu dŵr poeth. Mae hyn oherwydd, er mwyn danfon dŵr yn gyflym i dapiau, mae dŵr poeth yn cylchredeg yn barhaus ar rwydwaith o amgylch yr ysgol a elwir yn ‘system dŵr poeth cylchredol.’ Hyd yn oed os yw’r rhwydwaith hwn wedi’i inswleiddio’n dda, mae’n colli gwres yn barhaus. O ganlyniad, mae'r nwy a ddefnyddir i gynhesu dŵr poeth yn aneffeithlon iawn. Ar gyfartaledd, mae gwresogi dŵr poeth yn defnyddio 40% o ddefnydd cyffredinol ysgol o nwy.
Ateb tymor byr yw sicrhau mai dim ond yn ystod y diwrnod ysgol y mae dŵr poeth yn cylchredeg ac yn cael ei ddiffodd y tu allan i oriau, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau (yn amodol ar fflysio Legionella ar ddiwedd gwyliau hir).
Ateb hirdymor, ac un sy'n llawer gwell i'r hinsawdd, yw cael gwared ar y system dŵr poeth cylchredol yn gyfan gwbl, gan osod gwresogyddion dŵr poeth trydan yn eu lle. Yn aml mae’n well gwneud hyn yn raddol dros nifer o flynyddoedd e.e. wrth i doiledau gael eu hadnewyddu.
Mae Sbarcynni yn darparu amcangyfrifon o effeithlonrwydd eich system dŵr poeth a manteision a chostau gwneud newidiadau iddi.