Cyflwyniad
Mae'n hysbys ers tro bod golau ffenestr naturiol yn effeithio'n gadarnhaol ar hwyliau, ynni a chanolbwyntio. Fodd bynnag, golygfa gyfarwydd mewn ystafelloedd dosbarth a swyddfeydd yw'r defnydd o fleindiau i reoli llacharedd pan fydd yn olau y tu allan. Mae hyn yn arbennig o gyffredin pan ddefnyddir byrddau gwyn a thaflunyddion, gan nad yw llawer o fodelau yn ddigon llachar i'w gweld mewn golau dydd naturiol cryf. Yn aml mae'r bleindiau'n cael eu gadael wedi'u tynnu, gyda'r goleuadau ymlaen, hyd yn oed pan fydd y bwrdd gwyn neu'r taflunydd wedi'i ddiffodd.
Lle bo modd, dylid annog staff a disgyblion i ddefnyddio bleindiau i gyfeirio golau dydd ar y nenfwd a’r waliau yn hytrach na’u cau’n gyfan gwbl. Dylai hyn leihau'r angen am oleuadau trydan yn yr ystafell ddosbarth tra'n lleihau'r llacharedd.
Problem gyffredin arall mewn ysgolion yw ffenestri sydd wedi'u cuddio'n rhannol gan adnoddau ac arddangosfeydd. Mae cadw'r ffenestri'n glir yn helpu i wneud y gorau o'r golau naturiol sy'n mynd i mewn i ystafell.
Y lwcs yw'r uned safonol ar gyfer mesur golau. Mae'n hafal i un lwmen fesul metr sgwâr. Y lefelau lwcs a argymhellir ar gyfer ysgolion yw:
Coridorau: 100 lwcs
Cynteddau a ffreuturau: 200 lwcsLlyfrgelloedd, neuaddau chwaraeon, campfeydd, ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd cyfrifiaduron: 300 lwcs
Labordai, ceginau: 500 lwcs
Ystafell arlunio dechnegol: 750 lwcs
Ystyriwch brynu synhwyrydd golau rhad (mesurydd LWCS) i gofnodi lefelau golau ar draws yr ysgol, ac yna cymryd camau i wneud y mwyaf o olau dydd naturiol a lleihau gwastraff ynni
Y camau nesaf i arbed ynni
- Creu cynllun gweithredu i dargedu’r ardaloedd hynny o’r ysgol sydd â defnydd lwcs uwch na’r cyffredin a golau artiffisial. Dyluniwch rai posteri i annog staff a disgyblion i agor y bleindiau a diffodd y goleuadau.
- Creu amserlen cynnal a chadw sy'n cynnwys:
- Glanhau ffenestri, ffenestri to a ffitiadau
- Gwirio ac ailosod hen lampau a lampau gwan
- Sicrhau bod y rheolaethyddion yn gweithio ac wedi'u gosod yn gywir
- Glanhau synwyryddion deiliadaeth, os cânt eu gosod. Heb gynnal a chadw rheolaidd, gall lefelau golau ostwng 30% mewn dwy i dair blynedd.
- Lle bo modd, gosodwch gyfrifiaduron yn yr ystafelloedd dosbarth fel eu bod yn gyfochrog â wal y ffenestr. Dylai monitorau wynebu wal wag ac ni ddylai fod unrhyw ffenestri y tu ôl i'r defnyddiwr.
- Tynnwch rai o'r bylbiau golau o'u ffitiadau mewn mannau sydd wedi'u gor-oleuo yn yr ysgol.
- Dewiswch y goleuadau mwyaf effeithlon posib. Uwchraddio bylbiau golau a thiwbiau fflwroleuol presennol i diwbiau a goleuadau LED ynni isel. Mae goleuadau LED yn lleihau'r defnydd o ynni ac allbwn gwres, yn dileu cryndod a hwm, yn ymestyn oes lamp (hyd at 50%) a gall ganiatáu pylu - a gall hyn oll wneud ystafell ddosbarth yn fwy cyfforddus. Gwnewch yn siŵr bod hyn yn digwydd drwy ofyn i dîm rheoli’r ysgol ei gynnwys ym mholisi prynu’r ysgol.
- Ystyried synwyryddion deiliadaeth a golau dydd mewn ardaloedd problematig o'r ysgol. Drwy bylu neu ddiffodd goleuadau pan nad oes neb mewn ystafell, gall synwyryddion deiliadaeth leihau'r defnydd o drydan 30%. Gall defnyddio synwyryddion golau dydd neu ffotogelloedd i addasu'r goleuadau artiffisial yn ôl faint o olau naturiol yn yr ystafell leihau'r defnydd o drydan hyd at 40%.