Gall oergelloedd a rhewgelloedd ddefnyddio hyd at hanner trydan ysgol y tu allan i oriau ysgol. Nid oes angen gadael pob oergell a rhewgell ymlaen, yn enwedig yn ystod gwyliau hirach, gan nad yw bwyd yn gyffredinol yn cadw'n ddiogel mewn oergelloedd am fwy nag wythnos.
Er mwyn lleihau costau, dylid annog staff y gegin i lanhau’r oergelloedd a’r rhewgelloedd ac yna eu diffodd cyn gwyliau (yn enwedig cyn gwyliau’r haf.) Os oes angen cadw bwyd sydd wedi’i rewi, dylech ei gyfuno mewn un rhewgell er mwyn caniatáu i rhewgelloedd eraill gael eu diffodd.