Gofynnwch i'ch gofalwr neu reolwr adeilad neu aelodau o'ch tîm eco i ddiffodd oeryddion dŵr a boeleri diodydd poeth ar ddiwedd pob diwrnod ysgol, ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau. Weithiau mae'n well trefnu hyn drwy restr ysgrifenedig ffurfiol o dasgau y mae eich rheolwr adeiladu yn eu cyflawni bob dydd neu ar ddechrau gwyliau neu benwythnos.
Yn dibynnu ar y math o oerydd dŵr neu foeler diodydd poeth, efallai y bydd angen i chi gyflawni gweithdrefn ar ddiwedd yr holl wyliau i gael gwared ar unrhyw facteria cronedig os nad yw'r unedau wedi cael eu defnyddio ers cyfnod. Os ydych yn ansicr beth i'w wneud, cysylltwch â gwneuthurwr yr offer neu'ch ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch.
Os ydych yn prynu offer newydd, mae offer uniongyrchol nad oes ganddynt gronfeydd dŵr yn aml yn well pryniant gan nad ydynt yn gwastraffu ynni yn storio dŵr ar dymheredd uchel neu isel.