Ychwanegwyd inswleiddio llofft neu wal

Bydd 25% o wres adeilad yn dianc drwy do heb ei inswleiddio

30 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Mae insiwleiddio unrhyw ofod to a waliau ceudod allanol heb eu llenwi yn ffordd effeithiol a rhad o leihau colledion gwres. Mae insiwleiddio llofftydd yn gost-effeithiol iawn a byddwch yn cael elw ar eich buddsoddiad ymhen ychydig flynyddoedd mewn costau ynni is.

Yn anffodus mae gan lawer o adeiladau ysgol doeau fflat a waliau allanol sengl sy'n gwneud mesurau insiwleiddio yn fwy anodd, aflonyddgar a chostus. Mae gwelliannau i'r rhain yn fwyaf cost effeithiol yn ystod prosiectau adnewyddu a dylid eu hystyried bob amser pan fydd cyfle. Mae inswleiddio uwchben to fflat cyn gosod gorchudd gwrth-ddŵr newydd yn gost-effeithiol iawn.

Dylai staff a llywodraethwyr adolygu’r inswleiddio presennol yn y to a’r wal ar draws safle’r ysgol, nodi meysydd lle gellir gwella inswleiddio ac ymgorffori rhaglen inswleiddio yng nghynllun datblygu safle’r ysgol. Gallwch ennill pwyntiau Sbarcynni bob tro y cwblheir prosiect inswleiddio.

Os oes gennych ofod llofft sydd wedi’i inswleiddio’n wael, gallwch ddod o hyd i restr o osodwyr achrededig ar wefan yr Awdurdod Sicrwydd Inswleiddio. Byddant yn hapus i ddod allan i wneud arolwg o'ch ysgol a rhoi dyfynbris. Mae ganddynt hefyd gontractwyr ‘lle yn y to’ a fydd yn inswleiddio o dan doeau fflat.