Glanhawyd ffenestri i leihau'r angen am oleuadau

Golchu ffenestri eich ysgol bob 6 mis i wneud y mwyaf o olau naturiol

10 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Mae ffenestri brwnt yn golygu bod athrawon a disgyblion yn fwy tebygol o droi goleuadau ymlaen mewn ystafelloedd dosbarth. Bydd glanhau ffenestri a lleihau annibendod o amgylch ffenestri yn helpu i wneud y mwyaf o olau dydd yn dod i mewn i'r ystafell a lleihau'r angen am oleuadau artiffisial. Mae Sbarcynni yn argymell bod ffenestri ysgol yn cael eu golchi bob 6 mis i wneud y mwyaf o olau naturiol, a bod bleindiau'n cael eu gadael ar agor cymaint â phosib.

Y lefelau golau a argymhellir ar gyfer ysgolion yw:

Coridorau: 100 lux
Cynteddau a ffreuturau: 200 lux
Llyfrgelloedd, neuaddau chwaraeon, campfeydd, ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd cyfrifiaduron: 300 lux
Labordai, ceginau: 500 lux
Ystafell arlunio dechnegol: 750 lux

Anogwch eich disgyblion i fonitro lefelau golau mewn ystafelloedd dosbarth a datblygu cynllun gweithredu i wneud y gorau o olau naturiol.