Gwiethredwyd y modd segur ar gyfrifiaduron

Ffurfweddu cyfrifiaduron i fynd i'r modd segur ar ôl 15 munud heb ddefnydd

10 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Mae TGCh yn gyfrifol am ddyblu defnydd trydan ysgolion dros y ddau ddegawd diwethaf. Gellir lleihau defnydd yn hawdd ac yn rhad drwy sicrhau bod cyfrifiaduron yn y modd segur pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Gallai cyfrifiadur nodweddiadol ddefnyddio 40W pan fo wedi'i droi ymlaen ond mae'n defnyddio llai na 2W yn y modd segur (fel sy'n ofynnol gan gyfarwyddeb 1275 yr UE ers 2008). Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 95% yn y defnydd o bŵer.

Sicrhewch fod eich holl gyfrifiaduron y gellir eu ffurfweddu i fynd i'r modd segur yn gwneud hynny'n awtomatig ar ôl cyfnod byr o amser (e.e. 15 munud.) Gofynnwch i'ch staff TGCh a yw'r holl gyfrifiaduron desg a gliniaduron wedi'u ffurfweddu i fynd i'r modd segur.