Bydd gadael ffenestri ar agor dros nos yn arwain at golli gwres sylweddol o adeiladau’r ysgol ac yn golygu bod angen mwy o ynni i gynhesu’r ysgol yn y bore. Mae hefyd yn cynyddu'r risg o ddifrod gan rew. Cynhwyswch eich myfyrwyr wrth gau ffenestri ar ddiwedd y diwrnod ysgol a gofynnwch i'ch gofalwr neu lanhawyr wirio cyn iddynt adael y safle.