Rhowch thermomedrau ym mhob ystafell ddosbarth ac enwebwch fonitoriaid ynni'r dosbarth i wirio bod y tymheredd yn parhau'n iawn drwy gydol y diwrnod ysgol!
Dyma'r tymereddau gorau ar gyfer ysgolion:
- Dosbarthiadau arferol: 18°C
- Coridorau: 15°C
- Ardaloedd â lefelau uchel o weithgarwch (e.e. neuaddau chwaraeon): 15°C
- Ardaloedd â lefelau isel o weithgarwch: 21°C
- Ysgolion anghenion arbennig neu ardaloedd gyda phlant ifanc iawn: 21°C
Gellir cofnodi tymheredd ystafell ddosbarth ar Sbarcynni drwy ddangosfwrdd disgyblion eich ysgol. Os yw tymheredd yr ystafell ddosbarth yn rhy uchel, addaswch thermostatau neu reolyddion gwresogi.
Gall cael disgyblion i fod yn rhan o fonitro tymheredd ystafelloedd dosbarth fod yn ffordd dda o gefnogi ymgyrch i addasu amseroedd cychwyn boeleri. Gall monitro tymereddau ystafell ddosbarth dawelu meddwl staff yr ysgol na fydd yr ysgol yn rhy oer gydag amseroedd dechrau gwresogi hwyrach.