Ychwanegwyd inswleiddio wal geudod

Gosod inswleiddio wal geudod i dorri hyd at 30% ar gost gwresogi’r adeilad

30 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Mae ysgolion a adeiladwyd o waith maen ac a adeiladwyd ar ôl 1920 yn fwyaf tebygol o fod â waliau ceudod ond nid tan ar ôl tua 2005 y daeth yn orfodol i inswleiddio'r ceudodau hyn. Gall inswleiddio waliau ceudod leihau colled gwres drwy'r waliau gan ffactor o ddau, gan leihau cost gwresogi'r adeilad cyfan hyd at 30%.

Mae insiwleiddio waliau ceudod fel arfer yn costio tua £20/m2 o arwynebedd wal, ac mae ad-daliad ar y buddsoddiad drwy arbedion ynni rhwng 3 a 10 mlynedd. Mae’n debyg mai dyma un o’r ffyrdd mwyaf cost effeithiol o leihau eich biliau gwresogi.

Os codwyd adeiladau eich ysgol rhwng 1920 a 2005, mae’n werth darganfod a oes gan y waliau geudodau ac a ydynt wedi’u hinswleiddio. Os ydynt wedi'u hinswleiddio ar ôl y gwaith adeiladu, weithiau gallwch weld arwyddion o dyllau bach 2cm bob tua metr sydd wedi'u llenwi â morter lliw gwahanol. Yn aml, mae'n haws gofyn i gontractwr ymweld â'r ysgol i roi dyfynbris oherwydd bydd yn gallu dweud wrthych a yw waliau wedi'u hinswleiddio, yn aml gan ddefnyddio camera fideo bach y maent yn ei wthio i mewn i'r ceudod.

Ewch i wefan yr Awdurdod Sicrwydd Inswleiddio (IAA) i ddod o hyd i gontractwr lleol a fydd yn cynnal arolwg i ddweud wrthych a ellir inswleiddio ceudodau eich ysgol a rhoi dyfynbris i chi. Dylai aelodau’r IAA fod yn rhan o gynllun yswiriant, megis CIGA sy’n darparu gwarantau 25 mlynedd. Mae dau brif fath o inswleiddio, ffibr sydd wedi'i chwythu a gleiniau polystyren. Mae gan y ddau ei fanteision a'i anfanteision. Dylai penodi gosodwr a all ddarparu'r ddau fath sicrhau bod gennych y math mwyaf addas ar gyfer eich waliau. Yn gyffredinol, rydym yn cynghori defnyddio gleiniau polystyren ‘carbon’ gan eu bod yn darparu gwell insiwleiddio, yn dosbarthu’n well yn y ceudod ac yn llai tebygol o ‘gwympo’ dros amser.