Yn aml mae angen cadw ystafelloedd yn gynnes yn ystod y gwyliau i ddarparu ar gyfer staff ysgol na allant weithio gartref. Fodd bynnag, mae'n hynod aneffeithlon gwresogi'r ysgol gyfan i gadw nifer fechan o staff yn gynnes mewn ystafelloedd unigol.
Mae angen 80 kW o wres parhaus ar ysgol gynradd dau ddosbarth arferol i'w gadw'n gynnes, ond mae'n llawer mwy effeithlon darparu gwresogyddion gwyntyll trydan 1kW i staff unigol a allai fod eisiau dod i mewn yn ystod y gwyliau. Gall gwneud hyn leihau allyriadau carbon yr ysgol a chostau yn ystod gwyliau o fwy na 95%.