Datblygu Polisi
Dylai Llywodraethwyr Ysgol edrych i ddatblygu polisi effeithlonrwydd ynni sy'n:
• Gwneud datganiad clir o ymrwymiad
• Pennu amcanion a thargedau clir ar gyfer y defnydd o ynni
• Nodi cyfrifoldebau ac adnoddau
• Darparu cynllun gweithredu ac yn nodi sut y caiff ei gyflawni
• Gosod amserlen yr adolygiad.
Dylai'r Llywodraethwyr adolygu'r polisi o bryd i'w gilydd ac adrodd ar arbedion a meysydd i'w gwella.
Ystyriwch
archebu archwiliad ynni rhithwir Sbarcynni i gael mwy o gymorth i'ch helpu i ddatblygu cynllun gweithredu ynni. Rydym yn annog llywodraethwr i fynychu'r sesiwn archwilio rhithwir ochr yn ochr â'ch rheolwr busnes, rheolwr safle, arweinydd tîm eco a rhai cynrychiolwyr myfyrwyr.