Cyflwynwyd polisi ar dymheredd ystafell ddosbarth

Y tymheredd gorau ar gyfer ysgolion yw 18°C ​​mewn ystafelloedd dosbarth a 15°C mewn neuaddau a choridorau

30 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Y tymereddau gorau ar gyfer ysgolion yw: 
  • Dosbarthiadau arferol: 18°C
  • Coridorau: 15°C
  • Ardaloedd â lefelau uchel o weithgarwch (e.e. neuaddau chwaraeon): 15°C
  • Ardaloedd â lefelau isel o weithgarwch: 21°C
  • Ysgolion anghenion arbennig neu ardaloedd gyda phlant ifanc iawn: 21°C


Gallwch ddod o hyd i bolisi enghreifftiol ar dymheredd ystafell ddosbarth yma y gallwch ei ddefnyddio fel man gychwyn i ysgrifennu un eich hun.

Cadwch y canlynol mewn cof:

  1. Pwy fydd yn gyfrifol am fesur tymheredd ystafelloedd dosbarth?
  2. Pwy fydd yn gyfrifol am addasu gosodiadau thermostatau neu foeleri?
  3. Sut byddwch chi'n cofnodi lefelau cysur?
  4. Sut y byddwch chi'n annog disgyblion a staff i wisgo siwmper os ydynt wedi arfer ag ystafelloedd dosbarth poethach?
  5. Sut byddwch chi'n monitro tymheredd ystafelloedd dosbarth yn y tymor hir i sicrhau nad ydyn nhw'n cynyddu eto?
  6. Cofiwch ddefnyddio'r siartiau Sbarcynni i weld yr effaith mae gostyngiad yn nhymheredd y dosbarth yn ei gael ar ddefnydd ynni'r ysgol.
  7. Sut bydd perfformiad yn cael ei gyfleu i bawb yn yr ysgol?