Cyflwynwyd polisi ar ddiffodd goleuadau

Gwneud y defnydd gorau o olau naturiol i leihau cynnau goleuadau yn ddiangen

30 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Diffodd y Goleuadau
Mae gan lawer o ysgolion y fantais o ffenestri mawr sy'n galluogi golau dydd naturiol digonol i fynd i mewn i ystafelloedd. Er gwaethaf hyn, mae goleuadau’n aml yn cael eu gadael ymlaen pan nad oes eu hangen a gall ardal ffenestri gael ei rwystro gan bosteri ac arddangosiadau o waith disgyblion, sy’n lleihau golau dydd. Bydd y camau isod yn eich helpu i wneud y defnydd gorau o olau dydd naturiol i leihau eich dibyniaeth ar oleuadau artiffisial. Defnyddiwch yr awgrymiadau hyn i helpu i ysgrifennu polisi ysgol ar ddiffodd goleuadau.

  1. Dylai fod gan bob dosbarth fonitor goleuo a fydd yn monitro'r golau yn eu dosbarth.
  2. Gofynnwch i'ch Tîm Eco wneud hapwiriadau drwy gydol y tymor.
  3. Gofynnwch i'ch Tîm Eco adrodd i'r Pennaeth am ardaloedd lle mae goleuadau'n cael eu gadael ymlaen.
  4. Adolygwch eich polisi a'ch cynnydd yn rheolaidd gan gynnwys y Pennaeth a'r Rheolwr Safle.

Er mwyn cynyddu'r maint o olau naturiol yn yr ystafelloedd dosbarth:
  • Sicrhewch fod ffenestri yn glir o arddangosfeydd, posteri a dodrefn i ganiatáu cymaint â phosib o olau naturiol.
  • Enwebwch ddisgybl o bob dosbarth i weithredu fel monitor goleuo.
  • Dylai'r monitor goleuo weithio gyda'r athro i sicrhau'r defnydd gorau o fleindiau. Er enghraifft, gellir addasu bleindiau fertigol i gyfeirio golau'r haul i ffwrdd o sgriniau cyfrifiaduron a byrddau gwyn tra'n dal i ganiatáu golau dydd gwasgaredig i mewn i'r ystafell. Ceisiwch osgoi sefyllfaoedd lle mae bleindiau ar gau a goleuadau ymlaen.

Er mwyn lleihau'r goleuadau sy'n cael eu troi ymlaen yn ddiangen:
  • Gofynnwch i'r monitoriaid goleuo gadw llygad ar lefel golau dydd drwy gydol y diwrnod ysgol; os oes digon o olau dydd i weithio'n gyfforddus, dylai'r monitor goleuo ddiffodd y goleuadau.

Er mwyn sicrhau nad yw goleuadau'n cael eu gadael ymlaen pan nad ydynt yn cael eu defnyddio:
  • Sicrhewch fod y monitor goleuo yn diffodd goleuadau'r ystafell ddosbarth pan fydd y dosbarth yn gadael yr ystafell
  • Caniatáu i fonitoriaid goleuo ddiffodd goleuadau mewn ystafelloedd o amgylch yr ysgol nad ydynt yn cael eu defnyddio e.e. ystafelloedd adnoddau, llyfrgelloedd, mannau cyfarfodydd ymylol.