Crëwyd polisi ar ddiffodd offer technoleg gwybodaeth

Ni ddylid gadael unrhyw offer yn y modd segur. Os nad yw'n cael ei ddefnyddio, dylai fod i ffwrdd.

30 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Ni ddylid gadael unrhyw offer yn y modd segur. Os nad yw'n cael ei ddefnyddio, dylai fod i ffwrdd. 
  1. Archwiliwch defnydd ynni eich ysgol yn rheolaidd a nodwch meysydd i’w gwella
  2. Diffoddwch fyrddau gwyn yn yr ystafelloedd dosbarth pan nad ydynt yn cael eu defnyddio a chyn gadael yr ystafell ddosbarth
  3. Sicrhewch fod pob monitor cyfrifiadur yn cael ei ddiffodd pryd bynnag y caiff ei adael
  4. Anogwch staff i ddiffodd offer megis byrddau clyfar a thaflunyddion wrth y wal yn hytrach na defnyddio teclynnau rheoli o bell yn unig
  5. Gosodwch system awtomataidd lle mae pob cyfrifiadur yn diffodd yn awtomatig ar ddiwedd y dydd
  6. Gweithredwch system codio sticeri (goleuadau traffig neu siapiau i gynorthwyo'r rhai a all fod yn lliwddall). Mae gwyrdd yn dynodi offer y dylid eu diffodd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio (er enghraifft, cyfrifiaduron personol, taflunyddion a byrddau gwyn rhyngweithiol). Mae ambr yn amlygu offer y dylid eu diffodd ar ôl sicrhau nad oes neb yn eu defnyddio (er enghraifft, prif gyfrifiadur y swyddfa). Mae coch yn dynodi offer na ddylid eu cyffwrdd ac na ddylid eu diffodd (er enghraifft, gweinydd neu oergell.) Rhowch sticer lliw ar y switshis ymlaen/diffodd a phlygiau pob eitem o offer Technoleg Gwybodaeth a dywedwch wrth holl ddefnyddwyr yr ysgol y dylent geisio diffodd offer oni bai ei fod wedi'i farcio'n goch.

Gallai pob dosbarth neu ardal o'r ysgol gael monitor eco i fonitro offer yn cael ei adael yn segur.
Defnyddiwch eich Tîm Eco i wneud hapwiriadau drwy gydol yr wythnos.