Gall y daith i'r ysgol ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol fod yn un o brif achosion allyriadau cynhesu byd-eang a llygredd aer. Er bod eich Awdurdod Lleol yn gyfrifol am ddarparu teithio cynaliadwy a llwybrau sy’n gyfeillgar i gerddwyr/beicwyr yn eich cymuned, mae gan ysgolion ran fawr i’w chwarae wrth ddatblygu agweddau cadarnhaol at deithio sy’n gyfeillgar i’r blaned. Gall eich ysgol wneud llawer i annog plant, teuluoedd a staff i roi'r gorau i'r car o blaid bysiau, beiciau, sgwteri neu draed!
Beth am ddefnyddio
ein polisi enghreifftiol i ysgrifennu eich polisi ar hyrwyddo teithio cynaliadwy i'r ysgol.