Mae'n gyffredin iawn i ystafelloedd dosbarth gael y gwres ymlaen a ffenestri a drysau ar agor ar gyfer awyr iach neu oeri. Mae hyn yn wastraff mawr o ynni! Mae diffodd rheiddiaduron yn gyntaf cyn i chi agor ffenestri a drysau yn bwysig iawn.
Allwch chi ysgrifennu polisi i gael pawb yn yr ysgol i gofio bob amser gadw ffenestri a drysau ar gau pan fydd y gwres ymlaen? Cofiwch y gallwch leihau tymheredd ystafell ddosbarth gan ddefnyddio thermostatau rheiddiaduron a rheolyddion boeler yn hytrach nag agor drysau a ffenestri.
Dechreuwch trwy edrych ar
ein henghraifft, yna addaswch hi ar gyfer eich ysgol neu ysgrifennwch eich un eich hun.
Pethau i’w hystyried wrth ysgrifennu eich polisi:
- Pwy fydd yn gyfrifol am gau drysau a ffenestri? A all disgyblion a staff wneud hyn?
- Sut byddwch chi'n rhoi gwybod i ddosbarthiadau eraill beth maen nhw i fod i'w wneud a pham?
- Pwy fydd yn monitro a yw drysau a ffenestri ar gau? A fydd gennych fonitoriaid ynni dosbarth neu a fydd eich tîm Ynni neu dîm Eco yn cynnal hapwiriadau bob dydd?
- Sut byddwch chi'n cofnodi eich canfyddiadau?
- Sut byddwch chi’n rhannu gyda gweddill yr ysgol pa mor dda rydych chi’n gwneud?
- Sut byddwch chi'n gwobrwyo perfformiad da?