Mae rheoli eich boeler a sut y caiff ei reoli yn bwysig gan y gall gael effaith fawr ar ei ddefnydd o ynni. Trwsio rheolyddion y boeler yn aml yw'r ffordd fwyaf cost effeithiol o leihau eich defnydd o nwy. Weithiau, nid yw'r ysgol yn ymwybodol o sut mae'r boeler yn cael ei reoli ac a yw'r gosodiadau'n rhesymol.
Cwblhewch y daflen adolygu ffurfweddiad boeler neu anfonwch hi at eich peiriannydd boeler i'w chwblhau. Os oes angen i'ch peiriannydd boeler ymweld â'r ysgol i gwblhau'r daflen, gallech chi aros tan y gwasanaeth blynyddol, ac os felly rhowch nodyn yn eich dyddiadur i'ch atgoffa i anfon y daflen atynt ychydig cyn eu hymweliad a drefnwyd.
Unwaith y bydd y daflen adolygu wedi'i chwblhau, gall Sbarcynni adolygu eich gosodiadau presennol a'ch helpu i wneud y defnydd gorau o ynni. Cysylltwch â ni drwy e-bostio
hello@energysparks.uk.