Mae boeleri nwy yn defnyddio nwy sy'n danwydd ffosil ac os ydym am gyflawni ein hymrwymiadau hinsawdd, bydd angen i ni adnewyddu ein holl fwyleri nwy o fewn 15 mlynedd.
Ar gyfartaledd, mae boeleri nwy ar hyn o bryd yn cyfrif am 75% o allyriadau carbon ysgolion. Bydd gosod pwmp gwres yn lleihau allyriadau carbon eich ysgol ar gyfer gwresogi a dŵr poeth tua 80% a mwy yn y dyfodol wrth i’r grid ddatgarboneiddio. Felly os gallwch chi wneud y newid, yna bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r blaned!
Fodd bynnag, gall fod yn anodd gosod pympiau gwres, yn enwedig mewn ysgolion hŷn. Nid inswleiddio yw'r brif broblem fel arfer ond dosbarthiad gwres.
Gallwch ofyn am gyngor arbenigol gan osodwyr cymwys a restrir ar
wefan MCS. Cyhoeddir grantiau'r llywodraeth yn aml ar
wefan SALIX.