Defnyddiwch ein templedi rhestr diffodd i greu un ar gyfer eich ysgol eich hun. Efallai y byddwch eisiau sawl restr - un ar gyfer pob ardal neu hyd yn oed pob ystafell fel ei bod yn glir beth sydd angen ei ddiffodd ac ymhle. Peidiwch ag anghofio enwi'r camau gweithredu fel ei fod yn glir pwy sy'n gyfrifol.
Dyma ychydig o bethau i'w rhoi ar y rhestr:
- Gwresogi ystafell nwy a thrydan (mae'n anhygoel faint o ysgolion sy'n gadael hyn yn rhedeg!) Peidiwch ag anghofio gwresogyddion trydan mewn ystafelloedd dosbarth dros dro a gwresogyddion stôr. Sicrhewch fod gosodiadau amddiffyn rhag rhew ymlaen ac yn cael eu gwirio cyn gwyliau'r gaeaf.
- Gwresogi dŵr poeth - gallai hyn fod yn system gwres canolog, twymwyr tanddwr trydanol mewn tanciau mewn toeau a chypyrddau, a gwresogyddion dŵr poeth trydan pwynt defnyddio. I liniaru unrhyw bryderon am Legionella, gwnewch yn siŵr bod unrhyw danciau neu rediadau pibellau yn cael eu golchi a’u gwresogi i 60C cyn i ddisgyblion ddychwelyd ar ôl egwyl hir.
- Boeleri diod poeth
- Oeryddion dŵr
- Llungopiwyr ac argraffwyr
- Cyfrifiaduron, gwefryr ipad a gliniaduron, byrddau clyfar, a thaflunyddion
- Unrhyw weinyddion TG nad oes eu hangen yn ystod y gwyliau
- Offer technoleg cerddoriaeth
- Offer technoleg dylunio
- Cyn gwyliau hir, cyfnerthwch gynnwys oergelloedd a rhewgelloedd yng ngheginau'r ysgol, ystafell staff, ystafelloedd technoleg bwyd a labordai, a diffoddwch gynifer â phosibl.
- Ffaniau echdynnu a siambrau mwg
- Peiriannau coethi aer wedi'u cyflwyno fel lliniariad Covid
Gofynnwch i'ch tîm eco a'ch gofalwr neu reolwr safle gymryd rhan ar ddiwrnod olaf y tymor. Sicrhewch fod gan rywun gyfrifoldeb clir am y diffodd. Efallai y byddwch am benodi un person i bob ystafell/ardal/
Defnyddiwch y rhestr wirio Energy Sparks i'ch helpu i sicrhau nad oes dim yn cael ei golli.