I gael y canlyniadau arbed ynni gorau; dylai ysgolion gael o leiaf dri defnyddiwr staff cofrestredig ar Sbarcynni fel bod arbed ynni yn dod yn ymdrech gymunedol. Dylai'r rhain gynnwys aelod o'r uwch dîm arweinyddiaeth, rheolwr safle ac athro. Pan fydd staff yn gadael yr ysgol, dylent drosglwyddo eu rôl defnyddiwr Sbarcynni i aelod staff addas arall.
Er mwyn annog mwy o gydweithwyr i gymryd rhan yn Sbarcynni, gallwch chi sefydlu cyfrif defnyddiwr iddyn nhw ar Sbarcynni. I wneud hyn, mewngofnodwch i Sbarcynni, cliciwch ar y dewislen Rheoli Ysgol yng nghornel dde uchaf y sgrin, dewiswch Rheoli defnyddwyr ac yna cliciwch naill ai ar Cyfrif gweinyddwr ysgol newydd neu Cyfrif staff newydd. Rhowch eu manylion a byddant yn cael e-bost sefydlu cyfrif.
Rydym yn annog defnyddwyr staff yn gryf i gofrestru i dderbyn rhybuddion Sbarcynni wythnosol fel eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd mae defnydd yr ysgol yn newid ac yn cael gwybod am gost a goblygiadau carbon y newidiadau hyn a'r camau gweithredu a argymhellir i leihau'r defnydd o ynni.
Beth arall all aelodau staff ei wneud i gymryd mwy o ran gyda Sbarcynni ac arbed mwy o ynni yn eu hysgol?