Uwchraddiwyd cyfrifiaduron

Mae gliniaduron ynni effeithlon yn defnyddio tua 25% o ynni cyfrifiadur bwrdd gwaith

30 o bwyntiau ar gyfer y weithred hon

Trosolwg

Os ydych yn disodli cyfrifiaduron ysgol, ystyriwch uwchraddio i liniaduron sy'n defnyddio llai o ynni a hefyd caniatáu arferion gweithio mwy hyblyg ar draws safle'r ysgol. 

Mae bwrdd gwaith yn defnyddio 200 W/awr ar gyfartaledd. Mae cyfrifiadur sydd ymlaen am wyth awr y dydd yn defnyddio bron i 600 kWh ac yn allyrru 175kg o CO2 y flwyddyn.
Mae gliniadur yn defnyddio rhwng 50 a 100 W/awr, yn dibynnu ar y model. Mae gliniadur sydd ymlaen am wyth awr y dydd yn defnyddio rhwng 150 a 300 kWh ac yn allyrru rhwng 44 ac 88 kg o CO2 y flwyddyn.

Yn ogystal, dylech sicrhau bod pob cyfrifiadur wedi'i osod i fynd i'r modd segur, o fewn cyfnod byr (15 munud) o anweithgarwch.

Allwch chi gymharu defnydd ynni eich cyfrifiaduron hen a newydd? Faint o ynni ydych chi'n disgwyl ei arbed yn ystod y flwyddyn?