Yn eich ymgais i leihau gwastraff bwyd amser cinio, eich staff amser cinio yw eich cynghreiriaid mwyaf gwerthfawr o bosib.
Dechreuwch drwy sgwrsio â nhw am pam rydych chi eisiau gweithredu ar wastraff bwyd. Gallwch chi ddweud rhai ffeithiau wrthyn nhw, fel
***Nid yw rhwng 33-50% o'r holl fwyd a gynhyrchir yn fyd-eang byth yn cael ei fwyta, ac mae gwerth y bwyd hwn sy'n cael ei wastraffu yn werth dros $1 triliwn!***
neu
***Pan fydd gwastraff bwyd yn mynd i safleoedd tirlenwi, a dyna lle mae'r mwyafrif helaeth ohono'n mynd, mae'n dadelfennu heb fynediad i ocsigen ac yn creu methan, sydd 23x yn fwy marwol na charbon deuocsid!***
Gofynnwch iddyn nhw sut maen nhw'n gweld y sefyllfa gwastraff bwyd yn dy ysgol. Rydym wedi darparu rhai cwestiynau enghreifftiol i eich rhoi ar ben ffordd ond cofia ofyn unrhyw gwestiynau eraill sy'n bwysig yn eich barn chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu amser i gwrdd â nhw pan nad ydynt yn brysur yn paratoi cinio i’r disgyblion – mae canol prynhawn fel arfer yn amser da i’w dal.
- Am ba resymau ydych chi'n taflu bwyd i ffwrdd? h.y. wedi gwneud gormod, wedi’i adael ar blatiau plant, wedi’i losgi/heb ei goginio’n iawn/problem coginio, wedi mynd yn ddrwg
- Faint o fwyd nad yw'n fwytadwy ydych chi'n ei daflu (crwyn anfwytadwy, wedi'u difrodi, plisg wyau ac ati)?
- Beth sy'n digwydd i fwyd pan gaiff ei daflu allan?
- Sut ydych chi eisoes yn rheoli gwastraff bwyd yng nghegin yr ysgol?
- Pwy sy'n dewis beth sy'n mynd ar y fwydlen?
- Beth ydych chi'n ei wneud gyda bwyd dros ben?
- A oes gan rai eitemau bwydlen fwy o wastraff nag eraill?
- Pa ddosbarth/grŵp yn yr ysgol sydd â’r mwyaf o wastraff bwyd? Pam ydych chi'n meddwl yw hyn?
- Sut ydych chi'n penderfynu ar y dognau bwyd?
- A all disgyblion gael ail ddognau?
- Sut ydych chi'n meddwl y gallem atal gwastraff bwyd?