Yn aml mae'n anodd gwybod pa newidiadau y gallwn eu gwneud yn ein bywydau i leihau ein heffaith ar ein planed. Yn enwedig i blant, weithiau mae'r broblem yn ymddangos mor enfawr ac anghysbell fel ei bod yn anodd gwybod sut y gallwn wneud gwahaniaeth.
Mae deall ein gweithredoedd dyddiol ein hunain yn aml yn fan cychwyn defnyddiol. Mae’r gweithgaredd hwn yn edrych ar sut y gall peth o’r bwyd rydym yn ei fwyta gael effaith fawr ar yr hinsawdd a’n hamgylchedd.