Mae'r mwyafrif o ysgolion yn defnyddio llawer o'u hynni pan mae'r ysgol ar gau i ddisgyblion! Allwch chi gredu y bydden nhw eisiau gwresogi a phweru adeilad gwag pan mae'n costio cymaint ac yn cael effaith amgylcheddol mor enfawr i wneud hynny?
Sut olwg sydd ar hyn ar gyfer eich ysgol chi? Y bariau coch isod yw'r wythnosau gwyliau - dylen nhw fod llawer yn is na'r bariau gwyrdd/glas sef wythnosau'r tymor.
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Allwch chi weld beth oedd cost pweru'r ysgol yn ystod y gwyliau?
Cyn y gwyliau nesaf, gofynnwch i'ch Rheolwr Safle neu Ofalwr eistedd i lawr gyda chi i greu rhestr o bopeth y gallwch ei ddiffodd dros y gwyliau.
Dyma ychydig o bethau y gallwch eu rhoi ar y rhestr:
Gwres ystafell nwy a thrydan (mae'n anhygoel faint o ysgolion sy'n gadael hwn ymlaen!). Peidiwch ag anghofio gwresogyddion trydan mewn ystafelloedd dosbarth dros dro a gwresogyddion storio.
Gwresogi dŵr poeth
Boeleri dŵr poeth (efallai y bydd rhai yn yr ystafell staff neu'r gegin)
Oeryddion dŵr
Llungopïwyr ac argraffwyr
Cyfrifiaduron, gwefrwyr iPad a gliniaduron, byrddau clyfar a thaflunwyr
Unrhyw weinyddion TG nad oes eu hangen dros y gwyliau
Offer technoleg cerddoriaeth
Offer dylunio a thechnoleg
Gellir gwagio a diffodd oergelloedd a rhewgelloedd
Gwyntyllau echdynnu a siambrau mwg
Peiriannau puro aer wedi'u cyflwyno fel lliniariad Covid
Sicrhewch fod pawb yn gwybod am y rhestr ddiffodd.Cynhaliwch wasanaeth, siaradwch â’r athrawon mewn cyfarfod staff neu crëwch bosteri i fynd o amgylch yr ysgol, gan gynnwys:
poster diffodd ar gyfer ystafell waith yr athrawon (peidiwch ag anghofio'r mannau cymunedol!)
arwydd ar gyfer yr ystafell athrawon, neu
siart ar gyfer y gegin.
Beth am edrych ar restrau gwirio Sbarcynni (uchod ar y dde) i'ch helpu i wneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn cael ei anghofio.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor