Mae'r adran hon yn rhoi dadansoddiad manylach o reolaeth boeler eich ysgol a rhai pethau i gadw llygad amdanynt.
Mae'r adrannau canlynol yn rhoi mwy o gefndir a dadansoddiad o'ch llwyth sylfaenol trydan
Eich rheolaeth thermostatig yw 0.67, sef tua'r cyfartaledd
Y gwerth cyfartalog ar gyfer ysgolion yw 0.62 a gwerth perffaith yw 1.0. Po isaf yw'r gwerth islaw 1.0, y gwaethaf yw rheolaeth thermostatig yr ysgol.
Mae'r siart gwasgariad isod yn dangos dadansoddiad thermostatig o system wresogi eich ysgol. Yr echelin x yw'r tymheredd y tu allan. Mae'r echelin y yn dangos y defnydd o ynni mewn kWh ar unrhyw ddiwrnod penodol.
Darperir dwy set o ddata ar y siart. Y pwyntiau sy'n gysylltiedig â'r grŵp ar frig y siart yw'r rhai ar gyfer gwresogi diwrnod ysgol gaeaf. Wrth iddo gynhesu mae'r defnydd o nwy bob dydd yn gostwng.
Mae R² yn fesur o ba mor agos at y duedd yw'r gwerthoedd gwresogi dyddiol.
Mae R² o 0.0 yn golygu nad oes perthynas rhwng pa mor oer yw hi y tu allan a faint o nwy mae'ch ysgol yn ei ddefnyddio. Byddai hyn yn arwain at gostau rhedeg uwch a mwy o allyriadau carbon.
Mae R² o 1.0 yn berffaith. Mae'n golygu bod defnydd eich ysgol o nwy yn gymesur â pha mor oer yw y tu allan.
Gwerth R² eich ysgol yw 0.67 sy'n tua'r cyfartaledd.
Os oes gan y gwres reolaeth thermostatig dda (gwerth R² uchel) yna dylai'r pwyntiau ar frig y siart pan fydd y gwres ymlaen fod yn agos at y llinell duedd.
Mae hyn oherwydd bod faint o wres sydd ei angen ar un diwrnod yn gymesur yn llinol â'r gwahaniaeth rhwng y tymheredd y tu mewn a'r tu allan, a byddai unrhyw amrywiad o'r llinell duedd yn awgrymu nad yw rheolaeth thermostatig yn gweithio'n rhy dda.
Mae'r ail set o ddata ar waelod y siart ar gyfer defnydd nwy yn yr haf pan nad yw'r gwres ymlaen; yn nodweddiadol, mae hyn o ddŵr poeth a defnydd o'r gegin.
Mae ongl y llinell hon yn aml yn arwydd o ba mor dda y mae'r system dŵr poeth wedi'i hinswleiddio; os bydd y defnydd yn cynyddu wrth iddo oeri mae'n awgrymu diffyg inswleiddio.
Ar gyfer arbenigwyr ynni, mae'r fformiwla sy'n diffinio'r llinell duedd yn ddiddorol iawn. Mae'n rhagweld sut mae'r defnydd o nwy yn amrywio gyda thymheredd y tu allan.
Yn yr enghraifft uchod, y fformiwla ar gyfer gwresogi yw:
Y gofyniad gwresogi a ragwelir (kWh) = -71.2 * tymheredd y tu allan + 1524
Felly ar gyfer eich ysgol, os yw’r tymheredd allanol cyfartalog yn 12°C, y defnydd o nwy a ragwelir ar gyfer yr ysgol ar y diwrnod hwnnw fyddai:
669 kWh = -71.2 * 12.0 + 1524
Ond pe bai'r tymheredd y tu allan yn oerach ar 4°C byddai'r defnydd o nwy ar gyfer y diwrnod hwnnw:
1239 kWh = -71.2 * 4.0 + 1524
Gweld a allwch chi ddarllen y gwerthoedd hyn oddi ar linell duedd y graff uchod (tymheredd 12°C a 4°C ar yr echelin x a'r ateb - y defnydd dyddiol o nwy a ragwelir ar yr echelin-y).
Ffordd arall o edrych ar y rheolydd thermostatig yw edrych a yw defnydd ysgol o nwy yn newyd ar ddiwrnod pan fo'r tymheredd y tu allan yn newid yn sylweddol.
Amrediad dyddiol yw'r gwahaniaeth rhwng tymheredd yn ystod y dydd a'r nos. Mae'n gyffredin i dymheredd allanol gynyddu mwy na 10°C yn ystod y dydd. Mae hyn yn arbennig o wir yn y gwanwyn, lle mae tymheredd y ddaear oer ar ôl y gaeaf yn arwain at nosweithiau oerach, a heulwen gynnes y gwanwyn yn cynyddu tymheredd yn ystod y dydd.
Os oes newid mawr mewn tymheredd mewn diwrnod, fe'i disgrifir fel un sydd ag amrediad dyddiol mawr
Mewn egwyddor, os bydd tymheredd y tu allan yn codi 10°C, yna bydd y gwres a gollir drwy ffabrig adeilad (e.e. waliau, ffenestri ac ati) yn haneru mwy (gan fod y gwres a gollir yn gymesur â'r gwahaniaeth rhwng tymheredd y tu allan a'r tu mewn). Os oes gan yr ysgol reolaeth thermostatig dda yna byddech yn disgwyl gweld gostyngiad tebyg yn y defnydd o nwy yn ystod y dydd.
Cyfrifiadau yn seiliedig ar Nwy a ddefnyddiwyd rhwng 01 Hyd 2024 a 04 Ebr 2025
Defnyddir y nodwedion canlynol wrth ddadansoddi data ynni eich ysgol. Mae iawndal tymheredd yn defnyddio data tywydd sy'n benodol i leoliad eich ysgol.
Nodwedd | Gwerth |
---|---|
Arwynebedd llawr | 1401.0m2 |
Lleoliad | NN3 2RJ (-0.862186, 52.260104) |
Disgyblion | 212 |
Math | Cynradd |
Amcangyfrifir costau defnydd ar sail gwybodaeth tariff hanesyddol
Mae arbedion yn y dyfodol yn seiliedig ar wybodaeth tariff ddiweddaraf eich ysgol
Mae arbedion cost posibl a ddyfinnir mewn cymariaethau ysgol, e.e. ar gyfer ysgolion tebyg sydd wedi'u "rheoli'n dda" ac "enghreifftiol" hefyd yn seiliedig ar dariffau cyfredol eich ysgol
Mae cymhariaethau ysgol yn seilied ar feincnodi eich ysgol ag ysgolion tebyg ar sail y nodweddion a amlinellir isod.
Mae ysgolion "enghreifftiol" yn cynyrchioli'r 17.5% uchaf o ysgolion Sbarcynni
Mae ysgolion "a reolir yn dda" yn cynrychioli'r 30% uchaf o ysgolion Sbarcynni