We are managing our heating and hot water much better after seeing how much energy we were wasting on our audits. This has enabled us to adjust our settings and talk to our staff and children about wastage especially before school holidays. We have some improvements to make but we acknowledge this and have started to make positive changes.
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Ydych chi'n gwybod faint o oriau mae eich ysgol ar agor mewn blwyddyn? Beth am faint o oriau mae ar gau ac yn wag?
Ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion, prin y bydd yr oriau agor, hyd yn oed yn cynnwys amser paratoi athrawon a staff cynnal a chadw sy'n gweithio cyn ac ar ôl ysgol, yn cyrraedd 2000 o oriau. Fodd bynnag, mae'r oriau pan fydd dy ysgol ar gau bron i 7000 o oriau. Os yw eich ysgol yn cael ei chynhesu am yr holl amser hwnnw, bydd eich ysgol yn gwastraffu llawer o ynni!
Gwybodaeth cefndir
Nwy yw'r ffynhonnell ynni fwyaf cyffredin ar gyfer gwresogi mewn ysgolion, er bod rhai ysgolion yn defnyddio trydan neu olew ar gyfer gwresogi. Mae boeler nwy yn gweithio drwy losgi nwy i gynhesu dŵr, sydd wedyn yn cael ei bwmpio o amgylch yr ysgol i gynhesu'r rheiddiaduron.
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion ni ddylai fod unrhyw ddefnydd o nwy yn ystod gwyliau'r ysgol. Yr unig reswm y gellid defnyddio nwy yw amddiffyn y pibellau rhag rhewi mewn tywydd oer iawn.
Drwy gael gwared ar y defnydd o nwy yn ystod y gwyliau yn eich ysgol, faint allech chi ei arbed?
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Mae'r bariau coch ar y siart hwn yn dangos y nwy a ddefnyddiwyd yn ystod wythnosau gwyliau. Ym mha wyliau y defnyddir y mwyaf o nwy? Ydy eich ysgol yn cofio diffodd y gwres yn ystod rhai gwyliau ond nid rhai eraill?
Beth ydych chi'n gallu gwneud?
Siaradwch â gofalwr neu bennaeth yr ysgol am ddiffodd y gwres a’r dŵr poeth yn ystod gwyliau’r ysgol. Gallech chi ysgrifennu llythyr atyn nhw yn dweud faint allai’r ysgol ei arbed pe bai’n diffodd ei gwres a’i dŵr poeth yn ystod y gwyliau. Os yw rhywun yn gweithio yn yr ysgol yn ystod y gwyliau mae'n fwy effeithlon fel arfer gwresogi'r ystafell honno gyda gwresogydd gwyntyll neu wresogydd trydan bach arall na'r ysgol gyfan.
Weithiau mae'r gofalwr yn poeni am yr ysgol yn mynd yn rhy oer a'r pibellau yn rhewi. Mae hwn yn ddigwyddiad prin iawn, ac oherwydd y gellir rhaglennu'r rhan fwyaf o foeleri ysgol i droi ymlaen yn awtomatig mewn tywydd oer iawn (a elwir yn 'amddiffyn rhag rhew') nid oes angen gadael y boeler ar bob gwyliau. Os nad oes gan foeler yr ysgol osodiad ‘amddiffyn rhag rhew’ awtomatig yna dylai’r thermostat (sy’n dweud wrth y gwres pryd i ddod ymlaen) gael ei droi i lawr cyn ised â phosib i 8°C – bydd hyn yn arbed 70% o’r nwy o’i gymharu â gadael y thermostat ar 20°C.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor