Pan fyddwn yn defnyddio tanwyddau ffosil, rydym mewn gwirionedd yn defnyddio ynni'r haul o filiynau o flynyddoedd yn ôl.
Ar gyfer y gweithgaredd hwn, ceisia weld ym mhobman y defnyddir tanwyddau ffosil o'th gwmpas am un diwrnod. Efallai y bydd angen i ti ofyn i oedolyn o ble y daw'r trydan a ddefnyddir yn dy gartref, ysgol neu siopau.
Gwna restr a'i thrafod gydag oedolyn. Pam mae'r bobl rwyt ti'n eu gweld yn defnyddio tanwyddau ffosil? Beth allai'r dewis arall fod?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofnodi’r gweithgaredd hwn bob tro y bydd un o’ch disgyblion yn ei gwblhau gartref.