Yn groes i'r farn gyffredin, nid yw athrawon yn byw yn yr ysgol. Darganfyddwch ychydig mwy am pryd a sut mae eich ysgol yn brysur i ddeall pryd a sut mae ynni'n cael ei ddefnyddio yn eich ysgol.
Mae siartiau Energy Sparks yn dangos defnydd eich ysgol o ynni pan fydd yr ysgol ar agor (gwyrdd) ac ar gau (glas) ar ddiwrnodau ysgol.
School A
School B
Er mwyn rheoli ynni'n dda, rydych am i'r rhan fwyaf o'ch defnydd ynni fod pan fydd yr ysgol ar agor. Cymharwch y graffiau canlynol sy'n dangos y defnydd o drydan mewn dwy ysgol. Pa ysgol sy'n defnyddio'r rhan fwyaf o drydan yn gynnar yn y bore? Faint o'r gloch mae'r defnydd o drydan yn cynyddu'n sydyn? Allwhc chi feddwl am reswm am hyn? A oes unrhyw un yn yr ysgol ar hyn o bryd?
School C
School D
Nawr edrychwch ar Ysgol E. Pryd mae'r rhan fwyaf o drydan yn cael ei ddefnyddio? Ydych chi'n credu bod hyn oherwydd bod yr ysgol yn llawn pobl?
School E
Dyma’r data trydan diweddar ar gyfer eich ysgol:
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Rydym yn gosod amseroedd agor a chau yn ddiofyn ond gallwch chi newid hwn ar gyfer eich ysgol pan fyddwch chi wedi mewngofnodi fel Gweinyddwr i'ch cyfrif Energy Sparks. Ewch i Rheoli Ysgol - Golygu Amseroedd Ysgol. Dyluniwch holiadur i staff ei ateb fel y galli di ddeall yn well beth sy'n digwydd ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol. Efallai y byddwch chi am ofyn y cwestiynau canlynol:
Pryd ydych chi'n cyrraedd?
Pa offer ydych chi'n eu troi ymlaen? (gan gynnwys goleuadau, tegelli, llungopïwyr, taflunwyr, byrddau gwyn, cyfrifiaduron, argraffwyr, gwresogyddion/tymherwyr)
Pa amser ydych chi'n gadael?
Mae hwn yn gyfle da iawn i staff feddwl am eu harferion cyrraedd a gadael. A oes angen iddynt fod yn troi offer ymlaen mor gynnar neu'n ei ddiffodd mor hwyr?
Esboniadau Mae gan Ysgol C naill ai lanhawyr sy'n dod i mewn yn gynnar iawn yn y bore neu system wresogi drydanol yn cynhesu'r ysgol. Mae Ysgol D yn gynrychiolaeth dda o bryd mae staff yr ysgol yn dod i mewn. Mae'n bosib y bydd digwyddiad hwyr gyda'r nos yn digwydd yn Ysgol E. I ddeall mwy byddem yn edrych ar y graffiau ar gyfer y dyddiau nesaf. Os bydd y patrwm hwn yn ailadrodd byddem am ymchwilio i amseriad y system wresogi drydanol neu ofyn i'r Gofalwr neu archwilydd Energy Sparks am fwy o help i ddeall beth sy'n digwydd.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor