English
  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Ein hysgolion
    Gweld ysgolion Byrddau sgorio Cymharu ysgolion
  • Ein gwasanaethau
    Ar gyfer Ysgolion Ar gyfer Ymddiriedolaethau Aml-Academi Ar gyfer Awdurdodau Lleol Archwiliadau ynni Gweithdai addysg Prisio Hyfforddiant Astudiaethau achos Cylchlythyrau Fideos
  • Amdanom ni
    Cysylltu Tîm Blog Ein cyllidwyr Swyddi Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Diogelu plant Ystadegau ysgolion
  • Cefnogwch ni
  • Harris Primary Academy Shortlands
  • Dangosfwrdd disgyblion
  • Dangosfwrdd oedolion
  • Cofrestru
  • Mewngofnodi
  1. Ysgolion
  2. Harris Federation
  3. Harris Primary Academy Shortlands

Gwneud hapwiriad i weld a yw goleuadau neu eitemau trydanol yn cael eu gadael ymlaen ar ôl ysgol

Harris Primary Academy Shortlands, Wednesday, 25 January 2023
5 Ditectif KS1, KS2, KS3, KS4

What you did

https://twitter.com/HPA_Shortlands/status/1618521065269104640

Disgrifiad o'r gweithgaredd

Dyma'r dasg berffaith i griw o blant sy'n mwynhau bod yn 'dditectifs' a gwirio i weld pa ddosbarthiadau sy'n cofio diffodd goleuadau, byrddau a monitorau ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Paid ag anghofio gwirio rhannau eraill o’r ysgol, fel neuadd dy ysgol, toiledau, swyddfeydd, coridorau, llyfrgell, cegin neu ystafelloedd  adnoddau. Lawrlwythwch ein taflen gofnodi syml, neu dyluniwch un eich hun.

Lawrlwythwch boster i atgoffa pobl i ddiffodd pethau neu i ffarwelio â'r modd segur neu dyluniwch un eich hun (byddem wrth ein bodd yn ei weld!)

Efallai yr hoffai’r disgyblion adael adborth ar gyfer pob dosbarth/ystafell y maent yn ymweld â nhw, gan ganmol y preswylwyr am ymddygiad ynni-effeithlon (e.e. ‘Da iawn am ddiffodd eich bwrdd gwyn!’) neu eu hatgoffa o nodau’r ysgol i arbed ynni (e.e. ‘Diffoddwch eich goleuadau pan fyddwch yn mynd adref i arbed ynni ac arian ein hysgol.'). I arbed amser,  cytunwch ar rai sylwadau adborth safonol a'u llungopïo, fel nad oes angen i blant dreulio amser yn ysgrifennu eu hadborth ym mhob ystafell. Mae rhai ysgolion yn datblygu system goleuadau traffig, gan adael disgiau lliw neu fylbiau golau wedi'u lamineiddio ym mhob ystafell ddosbarth. Trafodwch yr ymagwedd orau gyda'ch tîm o dditectifs - maen nhw'n siŵr o fod â syniadau da!

Peidiwch ag anghofio rhannu canlyniadau eich gwaith ditectif gyda gweddill yr ysgol, gan ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol yn ogystal ag amlygu'r potensial ar gyfer arbed mwy o ynni. Fe welwch chi 'Da iawn dosbarth 5 am ddiffodd popeth! Os gallant ei wneud, gallwn ni i gyd ei wneud!' yn fwy cymhellol nag enwi a chodi cywilydd ar y rhai sydd wedi anghofio. 

Cadwch gofnod o'r hyn rydych yn darganfod ar bob hapwiriad, fel y gallwch chi weld a yw pethau'n gwella. A beth am greu siartiau gan ddefnyddio dy ddata hapwirio fel rhan o wersi mathemateg?

Mae hapwiriad ar ôl ysgol yn weithgaredd y gellir ei ailadrodd yn rheolaidd - paid ag anghofio ei gofnodi fel gweithgaredd newydd ac ennill mwy o bwyntiau Sbarcynni bob tro y byddwch yn cynnal un!

Os yw athrawon neu glybiau ar ôl ysgol yn llenwi'r ystafelloedd dosbarth yn rheolaidd ar ddiwedd y diwrnod ysgol, bydd angen i chi drafod gyda 'ch athrawon yr amser a'r ffordd orau i wirio bod goleuadau a TG wedi'u diffodd.

Pob gweithgaredd
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau. Dysgu rhagor

Dolenni Cyflym

  • Gweithgareddau
  • Gweithredoedd
  • Gweld ysgolion
  • Byrddau sgorio
  • Cysylltu

Gwasanaethau

  • Archwiliadau ynni
  • Gweithdai addysg
  • Hyfforddiant
  • Dysgu rhagor
  • Archebwch demo
  • Astudiaethau achos

Dolenni Eraill

  • Swyddi
  • Blog
  • Ystadegau ysgolion
  • Setiau data
  • Agor data

Termau Cyfreithiol

  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Cwcis
  • Polisi diogelu plant

Cofrestru am y Cylchlythyr

Cael y newyddion diweddaraf gan Sbarcynni yn eich mewnflwch Ni fyddwn byth yn rhannu eich e-bost ag unrhyw un arall.
Cyhoeddir cynnwys ar y wefan hon o dan Drwydded Creative Commons Attribution 4.0.
Mae Sbarcynni yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, cofrestriad 1189273.