Understanding our baseload to help in further reducing our usage.
Disgrifiad o'r gweithgaredd
At ba ddiben mae eich ysgol yn defnyddio trydan?
Gellid diffodd rhai o'r eitemau hynny dros nos ond mae angen cadw rhai ohonynt wedi'u cynnau drwy'r amser (o leiaf yn ystod y tymor). Gelwir y trydan sydd ei angen i bweru eitemau sy'n rhedeg drwy'r amser yn llwyth sylfaenol. Gellir mesur hyn gan faint o drydan s'n cael ei ddefnyddio pan fydd yr ysgol yn wag (gyda'r nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau).
Pam fyddech chi eisiau cadw talu am drydan pan nad oes unrhyw un yn yr ysgol? Mae torri i lawr ar hyn yn golygu torri ar gostau ynghyd â gostwng eich ôl troed carbon.
Edrychwch ar y graffiau a ganlyn. Mae un yn dangos enghraifft o ysgol yn rheoli ei lwyth sylfaenol yn dda ac un arall â llwyth sylfaenol aneffeithiol. A allwch chi ddweud pa un yw p'un? (Mae pob pwynt ar y graff hwn yn dangos y cyfartaledd dros yr oriau y mae ysgol ar gau ar y diwrnod hwnnw).
A allwch chi weld sut mae'r llwyth sylfaenol yn yr enghraifft gyntaf yn amrywio'n eang o ddydd i ddydd? Mae hyn yn golygu nad yw'r llwyth sylfaenol yn gyson. O un dydd i'r llall mae symiau gwahanol o drydan yn cael eu defnyddio pan mae'r ysgol ar gau. Gadewch i ni edrych yn agosach. Mae'r graffiau hyn yn dangos y trydan sy'n cael ei ddefnyddio bob amser rhwng 00:00 a 23:30.
A oes unrhyw beth am ddefnydd ynni sy'n edrych yn rhyfedd? A allwch chi feddwl pam mae cymaint o ynni yn cael ei ddefnyddio bryd hynny. Efallai y gallai eich Gofalwr/Rheolwr Safle eich helpu gyda hyn.
Gadewch inni edrych ar yr ail enghraifft eto. A allwch chi weld sut wnaeth rhywbeth newid yn ddramatig ym mis Mawrth 2021. Beth ydych chi'n meddwl yw'r achos dros hyn? a. Cafodd yr holl eitemau trydanol eu diffodd b. Cafodd rhywbeth sy'n defnyddio ychydig bach o drydan ei adael wedi'i gynnau c. Cafodd rhywbeth sy'n defnyddio llawer o drydan ei adael wedi'i gynnau
Edrychwch ar eich ysgol
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Edrychwch yn ofalus ar y graff. Sut y mae'r llwyth sylfaenol wedi newid dros amser? A yw'n newid yn dymhorol (o'r haf i'r gaeaf)? A oes unrhyw sbigynnau neu gwympiadau anarferol? Pa straeon y gallwch chi eu hadrodd wrth edrych ar y data? Cliciwch ar y graff a chymharu diwrnod ysgol gyda'r penwythnosau a gwyliau. A yw'r trydan yn cael ei ddefnyddio ar yr un amser bob dydd?
Edrychwch ar yr ail enghraifft eto. A allwch chi weld sut y newidiodd rhywbeth yn ddramatig ym mis Mawrth 21. Beth oedd yr achos dros hyn, ydych chi'n meddwl?
Gwres trydanol wedi'i adael wedi'i gynnau. Pe na bai rhywun wedi sylwi ar hyn, byddai wedi costio £2600 ychwanegol i'r ysgol yn ystod y flwyddyn. Dysgwch ragor am hynny a sut y datryswyd y broblem yn ein hastudiaeth achos Rhybyddion.
We use some essential cookies to make Energy Sparks work. We'd also like to use analytics cookies so we can understand how you use the service and make improvements.
Learn more