The pupils can see when we have power spikes due to time of the day
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Defnyddiwch eich gwybodaeth am y diwrnod ysgol a data eich ysgol i ddadansoddi pryd mae trydan yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion.
Newid unedau
Archwilio
Nid oes gennym ddigon o ddata ar hyn o bryd i arddangos y siart hwn
Mae'r siart hwn yn dangos diwrnodau ysgol arferol o ddefnydd trydan yn eich ysgol.
Faint o'r gloch mae disgyblion yn cyrraedd? A oes cynnydd yn y defnydd o drydan pan fydd disgyblion yn cyrraedd? A yw'r holl oleuadau, offer a thechnoleg eisoes wedi'u cynnau gan staff? Os bydd y defnydd o drydan yn gostwng, gallai hynny fod?
Beth sy'n digwydd amser egwyl? A oes gostyngiad yn y defnydd o drydan neu a yw'n cynyddu? Pam gallai hynny fod? Ydy dyfeisiau wedi'u diffodd? A allai mwy o offer gael eu troi ymlaen yn ystod y cyfnod hwnnw?
Pryd ydych chi'n cael gwasanaethau ysgol gyfan? Ydych chi'n gweld gwahaniaeth yn y defnydd o drydan ar yr adegau hynny?
Faint o’r gloch mae’r diwrnod ysgol swyddogol yn dod i ben a mwyafrif y disgyblion yn mynd adref? A yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data?
Pa mor hir mae'n ei gymryd i'ch ysgol ddisgyn i'w lefel llwyth sylfaenol? (Y llwyth sylfaenol trydan yw’r trydan sydd ei angen i redeg yr holl offer na ellir eu diffodd dros nos; yn ddelfrydol dylai’r bariau glas sy’n dangos defnydd dros nos ar y siart fod tua’r un uchder.)
Oes gennych glybiau ar ôl ysgol? Allwch chi weld y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y data? Pryd mae staff yr ysgol yn mynd adref? A yw hyn yn glir o edrych ar y data?
Cymharwch wahanol ddyddiau'r un wythnos yn adran Archwilio data'r dangosfwrdd Disgyblion i weld a oes gwahaniaeth mewn patrymau ymddygiad.
We use some essential cookies to make Energy Sparks work. We'd also like to use analytics cookies so we can understand how you use the service and make improvements.
Learn more