Siaradwch â'r Pennaeth a'r llywodraethwyr am ddatgan Argyfwng Hinsawdd. Defnyddiwch y canllaw atodedig i'ch helpu i nodi eich nodau a blaenoriaethau.
Ysgol Chase, Malvern. Swydd Gaerwrangon oedd un o'r ysgolion cyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd. Dilynwch y ddolen i ddysgu rhagor am yr hyn y maent yn ei wneud i weithredu.
Gofynnwch i'r pennaeth a'r llywodraethwyr am ymuno ag ymgyrch
Let’s Go Zero Sefydliad Ashden sy'n uno ysgolion y DU sy’n gweithio i dorri eu hallyriadau carbon i sero erbyn 2030. Bydd pob ysgol sy’n ymuno yn addo gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, tra hefyd yn annog y llywodraeth i gefnogi’r genhadaeth hollbwysig hon. Drwy godi eu lleisiau gyda’i gilydd, bydd ysgolion a’u cynghreiriaid yn dangos y gefnogaeth aruthrol i ystafelloedd dosbarth di-garbon ledled y DU – a sut y gallant fod yn sbardun i weithredu cymunedol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.