Mae'r adran hon yn rhoi dadansoddiad manylach o lwyth sylfaenol trydan eich ysgol a rhai pethau i gadw llygad amdanynt.
Mae'r adrannau canlynol yn darparu mwy o gefndir a dadansoddiad ar eich llwyth sylfaenol trydan
Mae eich llwyth sylfaenol yn uchel.
Pe baech yn cyfateb llwyth sylfaenol ysgolion eraill o'r un maint byddech yn arbed £15,000 y flwyddyn.
Eich llwyth sylfaenol dros y 12 mis diwethaf oedd 10 kW. Mae gan ysgolion eraill sydd â nifer tebyg o ddisgyblion lwyth sylfaenol o 3.2 kW.
Mae eich llwyth sylfaenol yn cynrychioli 33% o'ch defnydd blynyddol.
Mae pob pwynt yn y siart hwn yn cynrychioli'r llwyth sylfaenol cyfartalog dros yr oriau y mae ysgol ar gau ar y diwrnod hwnnw. Gallwch glicio ar bwynt yn y siart a bydd yn drilio i lawr i ddangos y defnydd llawn o drydan i chi ar y diwrnod hwnnw.
Os mae eich llwyth sylfaenol wedi newid, er enghraifft yn cynyddu neu'n lleihau yn sydyn, dylech allu olrhain ac egluro achos y newid hwn. Ystyriwch a yw'r ysgol wedi prynu offer newydd yn ddiweddar. Mae gostyngiad mawr dros wyliau'r haf yn dda, mae'n dangos bod offer wedi cael eu diffodd. Efallai cafodd oergelloedd a rhewgelloedd yn y gegin eu gwagio neu eu cyfuno. Ystyriwch pa mor arwyddocaol yw'r gostyngiad hwnnw - os cânt eu hachosi gan ddiffodd oergelloedd a rhewgelloedd, efallai y byddant yn ddigon aneffeithlon i ofyn am rai newydd. Meddyliwch a all eich ysgol ailadrodd y gostyngiad hwnnw ar gyfer gwyliau eraill, neu hyd yn oed penwythnosau.Oni bai bod yr ysgol wedi cynyddu'n ffisegol mewn maint, os ydych yn rheoli eich defnydd o drydan sylfaenol yn dda byddech yn disgwyl i'ch llwyth sylfaenol leihau dros amser wrth i offer a chyfrifiaduron ddod yn fwy ynni-effeithlon gyda gofynion pŵer modd gorffwys is. Os nad yw hyn yn wir, dylech geisio canfod achos y cynnydd.
Mae'r tabl isod yn dangos y llwyth sylfaenol cyfartalog blynyddol ar gyfer yr holl flynyddoedd y mae gennym ddata ar gyfer eich ysgol.
Blwyddyn | Llwyth sylfaenol blynyddol cyfartalog (kW) | Cost blynyddol cyfartalog (£) | CO2 blynyddol cyfartalog (kg) |
---|---|---|---|
2023 (rhannol) | 12 | £22,000 | 15,000 |
2024 (rhannol) | 10 | £22,000 | 12,000 |
Gallwch glicio ar y siart i drilio i lawr i ddiwrnodau unigol a gweithio allan ar ba adegau o'r dydd a'r flwyddyn y mae eich ysgol yn ei wneud naill ai'n well neu'n waeth na'r ysgolion hyn.
Mewn ysgol a reolir yn dda dylai’r llwyth sylfaenol aros yr un fath drwy gydol y flwyddyn, ni ddylai fod unrhyw reswm pam y dylai’r defnydd o drydan ganol nos ar ddiwrnod ysgol fod yn uwch yn y gaeaf nag yn yr haf.
Yr achosion mwyaf cyffredin o amrywiadau tymhorol uchel yw gwresogi trydan neu oleuadau diogelwch aneffeithlon yn cael eu gadael ymlaen dros nos yn y gaeaf.
Asesiad | Llwyth sylfaenol yn y gaeaf (kW) | Llwyth sylfaenol yn yr haf (kW) | % gwahaniaeth | Arbediad potensial (£) | Gostyngiad CO2 (kg) |
---|---|---|---|---|---|
Large variation | 40 | 5.6 | 620% | £6,300 | 3,500 |
Mewn ysgol a reolir yn dda dylai'r llwyth sylfaenol aros yr un fath drwy gydol yr wythnos, ni ddylai fod unrhyw reswm pam y dylai'r defnydd o drydan ganol nos ar ddiwrnod o'r wythnos fod yn uwch nag yn ystod y penwythnos.
Achos mwyaf cyffredin amrywiad yn ystod yr wythnos yw peiriant sy'n defnyddio llawer o ynni sy'n cael ei droi ymlaen ar ddydd Llun a'i diffodd eto ar ddydd Gwener.
Asesiad | Llwyth sylfaenol diwrnod uchaf (kW) | Llwyth sylfaenol diwrnod isaf (kW) | % gwahaniaeth | Arbediad potensial (£) | Gostyngiad CO2 (kg) |
---|---|---|---|---|---|
Large variation | 12 (Dydd Iau) | 8.8 (Dydd Sadwrn) | 35% | £3,800 | 2,100 |
Cyfrifiadau yn seiliedig ar Trydan a ddefnyddiwyd rhwng 01 Meh 2023 a 27 Rhag 2024
Defnyddir y nodwedion canlynol wrth ddadansoddi data ynni eich ysgol. Mae iawndal tymheredd yn defnyddio data tywydd sy'n benodol i leoliad eich ysgol.
Nodwedd | Gwerth |
---|---|
Arwynebedd llawr | 4391.0m2 |
Lleoliad | PE8 5HA (-0.476226, 52.492062) |
Disgyblion | 367 |
Math | Cynradd |
Amcangyfrifir costau defnydd ar sail gwybodaeth tariff hanesyddol
Mae arbedion yn y dyfodol yn seiliedig ar wybodaeth tariff ddiweddaraf eich ysgol
Mae arbedion cost posibl a ddyfinnir mewn cymariaethau ysgol, e.e. ar gyfer ysgolion tebyg sydd wedi'u "rheoli'n dda" ac "enghreifftiol" hefyd yn seiliedig ar dariffau cyfredol eich ysgol
Mae cymhariaethau ysgol yn seilied ar feincnodi eich ysgol ag ysgolion tebyg ar sail y nodweddion a amlinellir isod.
Mae ysgolion "enghreifftiol" yn cynyrchioli'r 17.5% uchaf o ysgolion Sbarcynni
Mae ysgolion "a reolir yn dda" yn cynrychioli'r 30% uchaf o ysgolion Sbarcynni