Mae llawer o ysgolion yn defnyddio boeleri tanwydd olew neu LPG, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad yw’r rhwydwaith nwy cenedlaethol (y pibellau tanddaearol) yn cyrraedd.
Gall wneud cadw golwg ar faint o ynni y mae eich ysgol yn ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi a dŵr poeth yn eithaf anodd. Mae gan ysgolion ar y rhwydwaith nwy fesuryddion sy'n cofnodi faint yn union o danwydd y maent yn ei ddefnyddio, a phryd y maent yn ei ddefnyddio. Ond yn aml mae'n rhaid i ysgolion sy'n defnyddio olew ddibynnu ar wybod sawl gwaith y flwyddyn y mae angen iddynt archebu mwy o danwydd.
Mae’n bwysig deall faint o danwydd y mae eich ysgol yn ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi a dŵr poeth, oherwydd mae prynu tanwydd yn ddrud ac mae defnyddio gormod yn cael effaith amgylcheddol. Ond sut allwch chi gyfrifo faint o olew neu LPG y mae eich ysgol yn ei ddefnyddio?
Cyn i chi ddechrau, siaradwch â'ch gofalwr neu reolwr adeilad am y tanwydd ar gyfer eich boeler. Ble mae'n cael ei storio? Pa mor aml mae'r tanc olew yn cael ei lenwi? Faint o olew mae'n ei ddal pan mae'n llawn? Sut allwch chi ddweud faint o danwydd sydd ar ôl ynddo?
Bydd gan rai tanciau olew diwb ar y tu allan i'r tanc sy'n dangos faint o olew sy'n cael ei adael y tu mewn. Efallai y bydd gan eraill ddyfais ar wahân sy'n dweud wrth eich rheolwr adeilad pa mor llawn yw'r tanc.
Mae'r gweithgaredd hwn yn edrych ar faint o danwydd sydd yn y tanc a sawl gwaith y flwyddyn y mae angen ei lenwi. Bydd cwblhau’r gweithgaredd hwn yn eich helpu i gyfrifo allyriadau carbon sy’n cael eu creu wrth losgi olew neu LPG ym moeler eich ysgol bob blwyddyn.
Os byddwch yn cadw golwg ar eich defnydd o olew bob gaeaf ac yn dilyn canllawiau gwresogi Sbarcynni efallai y byddwch yn dechrau sylwi bod eich defnydd yn gostwng.