Oeddech chi'n gwybod bod llosgi olew ar gyfer gwresogi yn cynhyrchu 40% yn fwy o garbon deuocsid na nwy, am yr un faint o ynni?
Mae llawer o ysgolion yn defnyddio boeleri tanwydd olew, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad yw’r rhwydwaith nwy cenedlaethol (y pibellau tanddaearol) yn cyrraedd.
Dysgwch ragor am o ble mae ein olew yn dod, beth rydyn ni'n ei ddefnyddio ar ei gyfer a pha effaith mae hyn i gyd yn ei gael ar ein hamgylchedd o'n cwmpas.