The Y12 Eco Ambassadors completed this activity during the Thursday leadership session. They debated what would be viable in our school setting and came up with some ideas to take forward. They passed them on to me (the Eco Lead) to take into our next staff CPD session.
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Mae llawer o ffyrdd y gallwn fynd i’r afael â mater gwastraff ynni mewn ysgolion.
Efallai eich bod yn ymwybodol o rai o'r rhain eisoes. Maent wedi'u rhestru ar ddangosfwrdd oedolion eich ysgol o dan Cyfleoedd arbed ynni.
Mae rhai yn cynnwys pobl yn newid eu hymddygiad - fel diffodd goleuadau a diffodd offer dros wyliau - er mwyn osgoi gwastraffu ynni. Bydd atebion eraill yn gofyn am ychydig o wybodaeth (fel newid rheolyddion y boeler) neu bydd angen i'ch ysgol brynu technoleg benodol (fel amseryddion neu oleuadau LED). Mae hyd yn oed rhai atebion a fydd angen cymorth arbenigol a/neu lawer o gyllid.
Chwaraewch ein gêm arddull Top Trumps i ddysgu rhagor am ad-daliad cost a charbon amrywiol welliannau arbed ynni.
Efallai y byddwch yn sylwi y bydd rhai gwelliannau yn arbed llawer o CO2 ond dim llawer o arian, neu i'r gwrthwyneb. Bydd hyn yn dibynnu a yw gwelliant yn arbed nwy neu drydan. Mae nwy a thanwyddau ffosil eraill yn cynhyrchu llawer o CO2 pan gânt eu llosgi, felly bydd lleihau faint o danwydd ffosil a ddefnyddir mewn ysgol yn lleihau faint o CO2 a gynhyrchir. Yn y DU, mae trydan yn cynhyrchu ychydig bach o CO2 ar gyfer pob uned a ddefnyddir ond mae'n ddrud iawn. Felly bydd lleihau faint o drydan y mae ysgol yn ei ddefnyddio yn arbed llawer o arian ond ni fydd yn lleihau ôl troed carbon yr ysgol gymaint. Eglurhad o'r graddau ar y cardiau Lle bo modd, cymerir arbedion costau ac allyriadau a chost gosod o ddata Energy Sparks ar gyfer ysgolion y DU. Fel arall, defnyddiwyd ffigurau arbedion a chostau’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar gyfer cartrefi yn y DU.
Mae'r ysgol gynradd gyfartalog yn ddau ddosbarth mynediad, mae'r ysgol uwchradd gyfartalog yn chwe dosbarth mynediad. Sylwch nad yw ystodau graddfeydd yn gyfartal o ran maint.
Mae'r rhifau yn ein cardiau yn werthoedd cyfartalog. Gallwch weld y gwerthoedd penodol ar gyfer eich ysgol ar blatfform Sbarcynni.
Gallwch ddod o hyd i rai o'r rhain ar ddangosfwrdd oedolion eich ysgol, fel yn yr enghraifft hon: I ddarganfod cyfleoedd eraill bydd angen i chi archwilio'r tudalennau Cyngor Effeithlonrwydd Ynni, sydd ar gael o'r botwm 'Adolygu dadansoddiad ynni' ar y Dangosfwrdd Oedolion.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor