Cyflwyniad
Mae tua 45% o drydan ysgol yn cael ei ddefnyddio y tu allan i oriau ysgol, pan fydd adeiladau ysgol yn wag ar y cyfan. TGCh a goleuadau sy'n dominyddu'r defnydd, a hefyd darparu'r cyfleoedd mwyaf ar gyfer arbedion, yn enwedig gostwng defnydd o gyfarpar sy'n cael eu gadael wedi'u cynnau 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Mae gan y rhan fwyaf o gyfarpar heddiw fodd segur, sy'n hanesyddol wedi'u cynnwys ar gyfarpar i'w caniatáu i gynnau yn gyflym iawn neu bweru dangosydd megis yr amser, heb fod wedi'u cynnau'n llwyr. Y cyfarpar mwyaf amlwg sy'n defnyddio'r swyddogaeth hon yw'r teledu, sy'n aml â golau coch bach i ddangos ei fod ar fodd ‘segur’. Serch hynny, mae cyfarpar eraill sydd â modd segur yn rheolaidd yn cynnwys unrhyw beth o wefrydd AC/DC (e.e gliniadur, argraffydd, cyfrifiadur bwrdd gwaith), ynghyd â chyfarpar cyffredin y cartref megis microdonnau, peiriannau golchi llestri a ffyrnau.
Yr hynaf yw'r cyfarpar, y mwyaf o drydan y mae'n debyg o'i ddefnyddio yn y modd segur. Gallai teledu sy'n 15 oed ddefnyddio 12 wat yn y modd segur, ond mae deddfwriaeth Ewropeaidd newydd yn golygu bod cyfarpar newydd wedi'u cyfyngu i 1 wat yr awr pan fyddan nhw wedi'u gadael yn y modd hwn. Bydd eitem newydd sy'n cadw at y ddeddfwriaeth 1 wat yn costio £1.23 y flwyddyn i'w rhedeg am wneud dim! Tra gallai teledu hŷn gostio £15 y flwyddyn yn y modd segur. Wrth feddwl am yr holl gyfarpar yn dy ysgol, gallai hyn greu arbediad sylweddol os byddi'n annog pawb i ddiffodd cyfarpar yn llawn, yn hytrach na'u gadael yn y modd segur.
Nod yr ymchwiliad
Canfod faint o oleuadau a chyfarpar sy'n cael eu gadael wedi'u cynnau neu yn y modd segur ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
Rhestr gyfarpar
Cynlluniwch daenlen neu dabl canlyniadau â llaw i gofnodi eich canlyniadau. Cofiwch gofnodi'r ystafell ddosbarth neu ardal o'r ysgol lle mae'r golau a'r cyfarpar wedi'u lleol, a'r math o gyfarpar y byddwch chi'n eu gweld. Cofiwch gofnodi a yw'r cyfarpar wedi'i gynnau'n llawn, neu yn y modd segur yn unig.
Dull
- Ewch o ystafell i ystafell yn edrych ar oleuadau sydd o amgylch yr ysgol. Ym mhob ystafell, coridor neu ardal awyr agored cofnoda nifer y goleuadau sydd wedi'u cynnau, a'r nifer sydd wedi'u diffodd pan fydd yr ysgol neu'r ardal yn wag. Cyfrifwch nifer y cyfrifiaduron, cyfarpar TG neu drydanol eraill sydd wedi'u gadael wedi'u cynnau, yn y modd segur neu wedi'u diffodd ym mhob ystafell. Peidiwch ag anghofio cynnwys monitorau, cyfrifiaduron, gliniaduron, taflunyddion, byrddau gwyn, seinyddion, chwaraewyr DVD, teledu, llungopiwyr, argraffyddion, trolis gwefru gliniadur/llechen, ac unrhyw beth arall y byddwch chi'n dod ar ei draws. Cofnodwch eich canlyniadau ar gyfer pob math o gyfarpar, gan fod ganddynt lefelau gwahanol iawn o ddefnydd ynni. Er enghraifft, gallai cyfrifiadur bwrdd gwaith hŷn gostio hyd at £160 os ydynt wedi'u gadael wedi'u cynnau 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, a bydd y gliniadur yn costio tua £4 ac ipad £1 yn unig.
- Beth am labelu pethau sydd wedi'u gadael wedi'u cynnau neu wedi'u diffodd gydag wynebau trist neu hapus (neu rywbeth debyg!), i atgoffa defnyddwyr ystafell ddosbarth i ddiffodd y rhain yn y dyfodol.
Dadansoddi Data a Chyflwyniad
Cyfrifo:
- Canran gyffredinol y goleuadau sydd wedi'u gadael wedi'u cynnau ar ôl ysgol mewn ystafelloedd, coridorau ac ardaloedd awyr agored.
- Canran y goleuadau a oedd wedi'u gadael wedi'u cynnau ym mhob adran.
- Canran gyffredinol y cyfarpar sydd wedi'u gadael wedi'u cynnau ar draws yr ysgol.
- Canran gyffredinol y cyfarpar sydd wedi'u gadael yn y modd segur.
- A allwch chi restru'r adrannau yn eich ysgol o'r gwaethaf i'r gorau?
A allwch chi dynnu rhai graffiau neu siart cylch i ddangos eich canlyniadau i weddill yr ysgol?
Casgliad
Beth y mae eich canlyniadau yn ei ddweud wrthych am ymddygiad disgyblion a staff o ran diffodd golau a chyfarpar? Rhowch dystiolaeth dros eich casgliad. Sut y gallwch chi ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i dysgu i arbed ynni? A allwch chi ddefnyddio eich canlyniadau i ddwyn perswâd ar weddill yr ysgol i newid eu harferion a diffodd i arbed ynni?
Camau Nesaf i arbed ynni
- Gall ymgyrchoedd ymddygiadol i atgoffa defnyddwyr i ddiffodd golau fod yn effeithiol, ond bydd angen nodiadau atgoffa cyson ac adborth i ddarparu buddion parhaus. A allwch chi wobrwyo'r athrawon neu adrannau gorau (efallai mwy o arian i'w cyllideb adrannol!)?
- Ysgogi'r modd segur ar gyfrifiaduron eich ysgol. Mae gan y rhan fwyaf o gyfrifiaduron fodd segur yn rhan ohonynt. Pan nad yw'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ond yn cael ei adael wedi'i gynnau, gall y cyfrifiadur bweru i lawr i fodd ynni isel. Gellir gosod yr amser i bweru lawr o flaen llaw, ac fel arfer mae 15 munud yn briodol. Ar gyfartaledd nid oes gan tua naw o bob deg cyfrifiadur y modd segur wedi'i alluogi felly efallai y byddai'n werth gwneud archwiliad llawn o'r cyfrifiaduron o amgylch eich ysgol. Dim ond yn ystod gwersi y dylid defnyddio'r modd segur a phan fydd cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio bob hyn a hyn. Ar ôl gwersi, dylai cyfarpar gael eu diffodd yn llwyr.
- Diffodd monitorau: Bydd hyn yn arbed dros 60% o'r ynni a ddefnyddir gan gyfrifiadur yn ystod amser egwyl a phan nad oes eu hangen ar gyfer gwers benodol. Crëwch bosteri atgoffa yn gofyn i bawb ddiffodd eu monitorau rhwng gwersi.
- Nid yw arbedwyr sgrîn yn arbed: Mae arbedwyr sgrîn wedi'u cynllunio i gynyddu oes weithredol y sgrîn - NID arbed ynni. Os yw arbedwr sgrîn yn gymhleth ac yn lliwgar fe all ddefnyddio mwy o ynni nac wrth weithredu dan amodau gwaith arferol, ac yn atal nodweddion arbed ynni y cyfrifiadur. Ewch o amgylch eich ysgol yn diffodd yr holl arbedwyr sgrîn.
- Os oes gan yr ysgol oleuadau diogelwch allanol, gofynna i dîm rheoli eich ysgol os gellir eu newid i olau PIR a fydd yn cynnau'r goleuadau pan fydd symudiad yn cael ei ganfod. Bydd uwchraddio goleuadau diogelwch i olau LED yn gwella effeithlonrwydd, a gostwng pa mor aml y mae angen newid y gosodiadau.
Gwerthusiad
Gwerthuswch sut y gwnaethoch chi gynnal yr ymchwiliad a sut y gellir ei wella.
Estyniadau
- Ewch ati i ailadrodd yr ymarfer monitro hwn yn rheolaidd i wirio a yw athrawon a disgyblion yn gwella a bod mwy o gyfarpar a goleuadau yn cael eu diffodd ar draws yr ysgol. Ewch ati i ailadrodd yr ymarfer monitro hwn amser egwyl ac amser cinio i weld a yw goleuadau a chyfarpar yn cael eu gadael wedi'u cynnau mewn ystafelloedd dosbarth gwag.
- Gall defnyddio rheolyddion golau awtomatig arbed cymaint â 30 i 40% o ddefnydd trydan o'i gymharu â chynnau/diffodd â llaw. Os fyddwch chi'n dod o hyd i ardaloedd problemus yn eich ysgol, ystyriwch ofyn i dîm rheoli'r ysgol osod synwyryddion defnydd mewn ardaloedd sy'n cael eu defnyddio bob hyn a hyn megis toiledau, ystafelloedd newid, ac ystafelloedd adnoddau. Bydd y rhain yn cynnau ac yn diffodd goleuadau yn awtomatig, pan fydd pobl yn mynd i mewn ac yn gadael yr ystafell.