Dywedir bod byddin yn gorymdeithio ar ei stumog ac mae'r un peth yn wir am ysgolion. Gellir dadlau mai amser cinio a chiniawau ysgol yw un o'r rhannau pwysicaf - a charbon-ddwys o bosibl! - o'ch diwrnod.
Bwyd. Gwastraff. Ynni. Pecynnu. Mae llawer o gyfleoedd yma i dy ysgol fod yn garedig i'r blaned.
Dere o hyd i amser da i eistedd i lawr gyda staff y gegin a gweld pa mor gyfeillgar i'r blaned yw cegin dy ysgol. Bydd y cwestiynau hyn yn dy helpu i feddwl am effeithlonrwydd ynni, gwastraff bwyd, dwyster carbon dewisiadau bwydlen a materion amgylcheddol eraill. Rhywbeth i feddwl amdano!