Ydych chi'n gwybod sut a phryd mae dŵr poeth yn cael ei gynhesu yn eich ysgol? Mae nifer o opsiynau posib, rhai ohonynt yn fwy ynni-effeithlon nag eraill. Rhai o'r opsiynau yw:
- Gwresogyddion dŵr pwynt defnydd sydd ynghlwm wrth bob tap poeth yn y toiledau, ystafelloedd dosbarth a cheginau. Mae'r rhain yn cyflenwi symiau bach o ddŵr poeth yn ôl y galw.
- Gwresogyddion trochi trydan naill ai'n ganolog neu ym mhob toiled, ystafell ddosbarth neu gegin.
- Boeleri nwy neu olew yn gwresogi dŵr poeth sydd wedi'i storio mewn tanc dŵr poeth
Siaradwch â’ch gofalwr, rheolwr safle neu reolwr busnes i ddarganfod sut mae dŵr yn cael ei gynhesu yn dy ysgol.
Sut i arbed ynni wrth gynhesu dŵr?
- Gofynnwch i'r gofalwr eich helpu i ddod o hyd i'r switshis amser ar gyfer y gwresogyddion trochi trydan. Gwnewch yn siŵr mai dim ond rhwng 8am a 3pm y bydd y rhain yn rhedeg. Os yw'r tanciau storio yn fawr efallai y galli di ddiffodd y gwresogydd troch am 2pm neu'n gynharach a dal i fod â digon o ddŵr poeth ar ôl am weddill y diwrnod ysgol.
- Gwiriwch fod y dŵr poeth wedi'i ddiffodd ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Efallai y bydd angen i chi newid o amseryddion 24 awr i amseryddion 7 diwrnod i gyflawni hyn yn ddibynadwy, ond gall fod yn ffordd hawdd o arbed llawer o ynni.
- Addasu rheolyddion boeler nwy ac olew fel bod dŵr poeth yn cael ei gynhesu o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig.
- Os yw boeleri'r system wresogi hefyd yn darparu dŵr poeth yn yr haf, sicrha bod cyn lleied â phosib o foeleri’n gweithredu ar gyfer darparu dŵr poeth a bod holl bympiau’r system wresogi yn cael eu diffodd a’r falfiau ar gau.
- Dylai tanciau a'u pibellau dosbarthu gael eu hinswleiddio'n dda i osgoi colli gwres.
- Mae gwastraffu dŵr poeth yn cosbi ysgol ddwywaith: unwaith am yr ynni a ddefnyddir i gynhesu'r dŵr ac eto am y dŵr a ddefnyddir. Gosod tapiau sy'n diffodd yn awtomatig a delio â thapiau sy'n diferu a gollyngiadau yn brydlon.
- Ystyriwch ddarparu gwresogyddion dŵr pwynt defnyddio i staff glanhau i'w defnyddio yn ystod gwyliau.