Cyflwyniad
Rydym yn gwybod ers tro bod golau naturiol drwy'r ffenestr yn gallu effeithio'n gadarnhaol ar hwyliau, ynni a chanolbwyntio. Ond, yr hyn sy'n gyfarwydd mewn ystafelloedd dosbarth a swyddfeydd yw defnydd bleindiau i reoli llacharedd pan fydd hi'n llachar y tu allan. Mae hyn yn arbennig o gyffredin pan fydd byrddau gwyn a thaflunyddion yn cael eu defnyddio, gan nad yw llawer o'r modelau yn ddigon llachar i'w gweld mewn golau dydd naturiol cryf. Yn aml mae'r bleindiau yn cael eu gadael wedi'u cau, gyda'r golau wedi'u cynnau, hyd yn oed pan fydd y bwrdd gwyn a'r taflunyddion wedi'u diffodd.
Lle bo'n bosibl, dylid annog staff a disgyblion i ddefnyddio bleindiau i gyfeirio golau dydd ar y nenfwd a'r waliau yn lle'u cau yn llwyr. Dylai hyn ostwng yr angen am olau trydan yn yr ystafell ddosbarth ac ar yr un pryd yn gostwng y llacharedd.
Problem gyffredin arall mewn ysgolion yw ffenestri yn cael eu tywyllu yn rhannol gan adnoddau ac arddangosfeydd. Mae cadw'r ffenestri'n glir yn helpu i uchafu faint o olau naturiol sy'n dod i mewn i'r ystafell.
Lwcs yw'r uned safonol ar gyfer mesur golau. Mae'n gyfartal i un lwmen fesul metr sgwâr.
Y lefelau lwcs a argymhellir ar gyfer ysgolion yw:
Coridorau: 100 lwcs
Cynteddau, mynedfeydd, ffreuturau: 200 lwcs
Llyfrgelloedd, neuaddau chwaraeon, campfeydd, ystafelloedd dosbarth: 300 lwcs
Labordai, ceginau: 500 lwcs
Ystafell dynnu dechnegol: 750 lwcs
Mewn llawer o ysgolion, mae gan ystafelloedd dosbarth ormod o oleuadau wedi'u gosod, yn enwedig yn y coridorau. Mae hyn yn aml wedi'i drefnu fel bod rhesi neu ardaloedd unigol o osodiadau golau yn gallu cael eu cynnau neu eu diffodd ar wahân. Bydd yr ymarfer monitro hwn yn dy helpu i adnabod y golau hynny nad oes angen eu cynnau o dan olau dydd arferol, ac i weithredu rhaglen i sicrhau eu bod yn parhau wedi'u diffodd.
Nod yr ymchwiliad
Er mwyn canfod lefelau golau yn yr ystafelloedd dosbarth a'r coridorau, a gweld a oes modd gostwng defnydd ynni ar olau.
Rhestr offer
Synhwyrydd golau rhad (mesurydd LUX) i gofnodi lefelau golau.
Taenlen neu dabl i gofnodi'ch canlyniadau.
Dull
- Dewiswch ddiwrnod gyda lefelau cyfartalog o olau dydd (h.y. diwrnod cymylog/ddim yn rhy heulog).
- Cynlluniwch daenlen neu dabl canlyniadau i gofnodi eich ganlyniadau. Bydd angen i chi gofnodi'r ystafell ddosbarth neu ardal o'r ysgol, p'un a yw'r golau wedi'u cynnau yn yr ystafell ddosbarth, p'un a yw'r bleindiau wedi'u cau, ac o leiaf 3 lefel golau gwahanol o ddarlleniadau mewn gwahanol ardaloedd o'r ystafell ddosbarth neu goridor.
- Cofnodwch y lefelau golau gan ddefnyddio'r mesurydd LUX ym mhob ystafell neu ardal o'r ysgol pan fyddwch yn mynd i mewn gyntaf. Mewn ystafelloedd dosbarth cofnodwch y lefelau golau ar uchder desg mewn o leiaf 3 ardal wahanol o'r ystafell gan gynnwys yr un pellaf o'r ffenestri.
- Os yw'r bleindiau ar gau neu ffenestri wedi'u tywyllu gan adnoddau, cofnoda hyn yn dy daenlen neu dabl canlyniadau.
- Os yw'r golau wedi'u cynnau, cofnodwch hyn ar eich taenlen neu dabl canlyniadau.
- Diffoddwch unrhyw oleuadau ac agorwch y bleindiau. Cofnodwch y lefelau golau eto. A ydynt yn bodloni'r lefelau lwcs a argymhellir ar gyfer ysgolion.
- Os na, dechreuwch y pellaf o'r ffenestr, gan gynnau pob rhes o olau un ar y tro os yn bosib. Bob tro, mesura a oes swm digonol o olau i weithio'n effeithiol ar lefel ddesg ym mhob ardal o'r ystafell.
- Pan fyddwch chi'n cofnodi swm derbyniol o olau mewn ystafell, rho'r gorau i gynnau'r goleuadau.
- I gloi, ar ôl trafod gydag athrawon dosbarth yn yr ystafelloedd hyn, trafodwch eich canfyddiadau a chael eu caniatâd o ran pa resi o olau y gellid eu diffodd fel arfer.
- Ar ôl eu hadnabod, nodwch y switshis priodol gyda sticeri coch er mwyn dangos i'r staff a'r disgyblion na ddylid defnyddio'r switshis hyn wedi'u marcio oni bai bod angen (h.y. gyda'r nos, pan fydd hi'n gymylog iawn, neu os yw disgybl angen mwy o olau).
- Fe allech chi hefyd ddefnyddio sticeri gwyrdd ar gyfer goleuadau/switshis y dylid eu defnyddio yn ôl yr angen. Dotiau Coch - Peidio â'u cyffwrdd a pheidio â'u defnyddio (caiff athrawon newid y rhain ar eu disgresiwn) Dotiau Gwyrdd - Cynnau'r goleuadau hyn yn ôl yr angen
- Gall yr union lefelau golau o olau dydd naturiol amrywio'n fawr oherwydd y gorchudd cymylau a safle'r haul. Ystyriwch ailadrodd yr ymarfer monitro hwn ar wahanol amseroedd y dydd, o dan amodau tywydd gwahanol iawn. Cofnoda lefelau golau awyr agored cyn i chi ddechrau pob pennod o fonitro dan do.
Dadansoddiad Data a Chyflwyno
- Cyfrifwch lefelau lwcs cymedrig ar draws eich ysgol cyn addasu'r golau.
- Plotiwch siart yn dangos y lefel lwcs cymedrig ym mhob ystafell ddosbarth neu ardal y bues di'n ei monitro cyn ac ar ôl addasu'r golau.
- Rhestrwch bob ystafell ddosbarth neu ardal o'ch ysgol yn ôl ei lefel lwcs cymedrig cyn i chi addasu'r golau. Os ydych chi'n ailwneud yr ymarfer monitro ar wahanol adegau o'r dydd, a yw'r rhestr yn newid yn sylweddol wrth i'r haul symud o amgylch yr adeiladau?
- Crëwch ffordd o dynnu sylw at yr ystafelloedd dosbarth neu ardal o'r ysgol lle mae golau artiffisial yn cael ei ddefnyddio heb fod angen.
Casgliad
Beth mae eich canlyniadau yn dweud wrthych am ymddygiad disgyblion a staff o ran cynnau goleuadau yn ddianghenraid? Rhowch eich tystiolaeth am eich casgliad. Sut allwch chi ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i dysgu i arbed ynni?
Camau Nesaf i arbed ynni
- Crëwch gynllun gweithredu i dargedu'r ardaloedd hynny yn yr ysgol â lefel uwch na'r cyfartaledd o lwcs a defnydd golau artiffisial. Cynlluniwch bosteri i annog staff a disgyblion i agor y bleindiau a diffodd golau.
- Ystyriwch ofyn i dîm rheoli eich ysgol i dynnu rhai o fylbiau golau o'r gosodiadau mewn ardaloedd o'r ysgol sydd wedi'u gor-oleuo.
- Gofynnwch i dîm rheoli eich ysgol i ddewis y golau mwyaf effeithlon posibl. Uwchraddio bylbiau golau cyfredol a thiwbiau fflworoleuol i diwbiau a golau LED ynni isel. Mae golau LED yn gostwng defnydd ynni ac allbwn gwres, yn dileu fflachio a si, yn ymestyn oes lamp (gan hyd at 50%) ac fe all ganiatáu pylu – y gall pob un ohonynt wneud ystafell ddosbarth yn fwy cyfforddus. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, gofynna i dîm rheoli'r ysgol eu cynnwys ym mholisi prynu'r ysgol.
- Gofynnwch i dîm rheoli eich ysgol ystyried synwyryddion defnydd a golau dydd mewn ardaloedd problemus o'r ysgol: Trwy bylu neu ddiffodd y golau pan na fydd unrhyw un yn yr ystafell, gellir gostwng defnydd trydan gan 30%. Mae addasu'r golau artiffisial yn ôl faint o olau naturiol sydd yn yr ystafell gan ddefnyddio synwyryddion golau dydd neu gelloedd ffoto yn gallu gostwng defnydd trydan gan hyd at 40%.
- Trafodwch gyda thîm rheoli eich ysgol amserlen gynnal a chadw sy'n cynnwys glanhau ffenestri, goleuadau nenfwd a gosodiadau, gan wirio a newid hen lampau a lampau pŵl, gan sicrhau bod rheolyddion mewn cyflwr da ac wedi'u gosod yn gywir, a glanhau synwyryddion defnydd os ydynt wedi'u gosod. Heb eu cynnal yn rheolaidd, gall lefelau golau ddisgyn gan 30% mewn 2-3 blynedd.
- Lle fo'n bosib, dylid gosod cyfrifiaduron mewn ystafelloedd dosbarth fel nad ydynt yn gyfochrog â wal y ffenestr, bod y monitorau yn wynebu wal wag, ac nad oes ffenestri y tu ôl i'r defnyddiwr. Mae hyn yn golygu y gellir defnyddio golau naturiol yn amlach heb broblemau llacharedd.
Gwerthusiad
Gwerthuswch sut yr aethoch chi ati i gynnal yr ymchwiliad a sut y gellir ei wella.
Estyniadau
- Cyflwynwch weithgaredd monitro rheolaidd i sicrhau bod eich ysgol yn gwneud y defnydd gorau o olau naturiol, ac yn osgoi cynnau golau artiffisial heb fod angen.