Mae'r uned hon yn defnyddio data byd go iawn o ysgolion Sbarcynni i gwmpasu amcanion Cwricwlwm Cenedlaethol yr uned Ystadegau - dehongli a llunio siartiau cylch a graffiau llinell a defnyddio'r rhain i ddatrys problemau. Gobeithiwn y bydd defnyddio data byd go iawn yn y modd hwn yn ysbrydoli disgyblion i edrych ar ddefnydd ynni eu hysgol eu hunain a chymryd camau i leihau eu defnydd o ynni. Yn ogystal â defnyddio ynni, bydd yr adnodd hwn yn ymdrin â meysydd eraill sy'n mynd i'r afael â chynaliadwyedd, megis trafnidiaeth a diet.
Mae'r gweithgaredd hwn hefyd yn mynd i'r afael â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy canlynol 7, 11 a 12