Mae gan bawb rhan i'w chwarae mewn lleihau gwastraff ynni ac allyriadau carbon yn eich ysgol. Yn fwy na disgyblion ac athrawon, gall cymuned gyfan eich ysgol wneud y newidiadau pwysig a fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Unwaith y byddwch wedi dadansoddi'r defnydd trydan yn eich ysgol, neu asesu ble arall gallwch chi weithredu, mae angen i chi ddod o hyd i'r bobl sy'n gallu'ch helpu.
Gallai hyn fod eich gofalwr neu dîm ystadau. Efallai'ch rheolwr busnes? Neu efallai staff y gegin neu staff cinio sydd yn y sefyllfa orau i'ch helpu i wneud newidiadau.
Sïon sicr i gael cefnogaeth eich Cynghreiriaid Ynni:
- Dewch o hyd i amser sy'n gyfleus i bawb cwrdd
- Esboniwch pam fod hyn yn bwysig i chi ac i'r ysgol
- Dysgwch am sut maen nhw'n defnyddio ynni yn eu swyddi
- Gweithiwch gyda'ch gilydd - gwrandewch ar eu syniadau a cheisiwch ddod o hyd i ddatrysiadau gyda'ch gilydd
- Byddwch yn gwrtais ac yn ystyriol - efallai y bydd ganddynt flaenoriaethau gwaith sy'n golygu na allant wneud newidiadau mor gyflym â byddech yn gobeithio