Mae gan bawb yn yr ysgol ran i'w chwarae mewn arbed ynni. Beth am drefnu cyfarfod gyda staff amser cinio i drafod ffyrdd y gallent helpu i arbed ynni. Gall gweithredoedd posib y gallech chi eu hawgrymu gynnwys:
- Diffodd goleuadau mewn neuaddau cinio pan fydd digon o olau dydd.
- Agor bleindiau a llenni mewn neuaddau cinio i adael digon o olau dydd i mewn, i osgoi troi goleuadau ymlaen.
- Cau drysau a ffenestri amser cinio os yw'r gwres ymlaen.
- Troi thermostatau i lawr mewn neuaddau cinio os yw'r ystafell yn teimlo'n rhy boeth, yn hytrach nag agor ffenestr.
- Annog plant i gau drysau i doiledau a choridorau pan fyddant yn mynd at y rhain amser cinio.
Peidiwch ag anghofio cynnwys cynnal cyfarfod gyda staff glanhau. Yn aml, nhw yw'r olaf i adael yr ysgol gyda'r nos a gallent fod y rhai sy'n sicrhau bod yr holl eitemau trydanol i ffwrdd drwy'r nos. Gall gweithredoedd posib y gallech chi eu hawgrymu gynnwys:
- Diffodd y goleuadau ym mhob ystafell ddosbarth wrth iddynt orffen glanhau. Peidio â gadael goleuadau ymlaen drwy holl adeilad yr ysgol wrth lanhau.
- Gwirio bod ffenestri ar gau drwy'r ysgol wrth iddynt lanhau.
- Grymuso glanhawyr i ddiffodd offer TG sydd wedi'i farcio â sticer diffodd.
- Sicrhau nad yw rheiddiaduron ac awyrellau yn cael eu rhwystro gan unrhyw offer a bod hidlwyr yn cael eu cadw'n lân ac yn rhydd o lwch. Mae hyn yn sicrhau cylchrediad gwell o wres i'r gofod ac yn lleihau'r ynni sydd ei angen i gwrdd â'r galw am wres.
- Glanhau ffenestri, ffenestri to a ffitiadau i ganiatáu'r golau naturiol mwyaf posibl.
- Darparu gwresogyddion dŵr pwynt defnyddio i staff glanhau i'w defnyddio yn ystod gwyliau, er mwyn osgoi gwresogi tanc mawr o ddŵr yn ddiangen.
- Difodd tapiau rhwng defnydd.
- Rhoi gwybod am dapiau sy'n diferu.
- Trafod ailgylchu mwy o wastraff - dyheu am fod yn ysgol ddiwastraff. A yw glanhawyr yn sylwi nad yw disgyblion a staff yn defnyddio'r biniau ailgylchu a ddarperir? A ellid gosod biniau ailgylchu yn well i gael mwy o ddefnydd ohonynt? A oes angen mwy o finiau ailgylchu?
- Trafod newid o dywelion papur i sychwyr dwylo ynni effeithlon.
- Rhoi gwybod am lampau diffygiol, a allai gael eu disodli gan ddewisiadau ynni effeithlon fel LEDs.
Ar ôl eich cyfarfodydd adroddwch yn ôl ar yr hyn rydych chi a’r staff amser cinio/glanhau wedi’i drafod i’r Rheolwr Busnes Ysgol a’r Pennaeth i greu darlun cyffredinol o ddefnydd ynni’r ysgol, ac unrhyw welliannau y gellid eu gwneud.