Mae myfyrwyr a staff yn gweithio gyda'i gilydd i greu rhestr wirio diffodd gwyliau ar gyfer eich ysgol. Gallwch ddefnyddio ein templedi i helpu. Efallai y byddwch eisiau mwy nag un rhestr - un ar gyfer pob ardal neu hyd yn oed pob ystafell fel ei bod yn glir beth sydd angen ei ddiffodd ac ymhle. Peidiwch ag anghofio rhoi enw ar gamau gweithredu fel ei fod yn glir pwy sy'n gyfrifol.
Dyma ychydig o bethau i’w rhoi ar y rhestr – gwnewch yn siŵr bod aelodau staff perthnasol yn ymwybodol o’r hyn sydd ei angen:
- Gwresogi ystafell nwy a thrydan (mae'n anhygoel faint o ysgolion sy'n gadael hyn yn rhedeg!). Peidiwch ag anghofio gwresogyddion trydan mewn ystafelloedd dosbarth dros dro a stôr-wresogyddion. Sicrhewch fod gosodiadau amddiffyn rhag rhew ymlaen ac yn cael eu gwirio cyn gwyliau'r gaeaf.
- Gwresogi dŵr poeth - gallai hyn fod yn system gwres canolog, twymwyr tanddwr trydanol mewn tanciau mewn toeau a chypyrddau, a gwresogyddion dŵr poeth trydan pwynt defnydd. I liniaru unrhyw bryderon am Legionella, gwnewch yn siŵr bod unrhyw danciau neu rediadau pibellau yn cael eu golchi a’u gwresogi i 60C cyn i ddisgyblion ddychwelyd ar ôl egwyl hir.
- Boeleri diod poeth
- Oeryddion dŵr
- Llungopiwyr ac argraffwyr
- Cyfrifiaduron, llechi a gliniaduron, byrddau clyfar, a thaflunyddion
- Unrhyw weinyddion TG nad oes eu hangen yn ystod y gwyliau
- Offer technoleg cerddoriaeth
- Offer technoleg dylunio
- Cyn gwyliau hir, cyfunwch gynnwys oergelloedd a rhewgelloedd yng ngheginau'r ysgol, ystafell staff, ystafelloedd technoleg bwyd a labordai, a diffoddwch gynifer â phosibl.
- Gwyntyllau echdynnu a siambrau mwg
- Peiriannau puro aer wedi'u cyflwyno fel lliniariad Covid
Gofynnwch i'ch tîm eco a'ch gofalwr neu reolwr safle gymryd rhan ar ddiwrnod olaf y tymor. Sicrhewch fod gan rywun gyfrifoldeb clir am y diffodd. Efallai y byddwch am benodi un person i bob ystafell/ardal.
Defnyddiwch restr wirio Sbarcynni i'ch helpu i sicrhau nad oes dim yn cael ei anghofio.