We ran a layer up, power down day to support actions to address Climate Change.
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Cyn i chi ddarllen yr enghreifftiau isod, meddyliwch am beth yr hoffech chi ganolbwyntio - nwy (gwers) neu drydan. Mae mynd i'r afael â gwres yn gweithio'n well rhwng mis Tachwedd a mis Ebrill pan fydd gwres yr ysgol wedi'i gynnau'n uchel fel arfer. Ym misoedd cynhesach yr haf, efallai yr hoffech chi fynd i'r afael ag ymgyrchoedd golau diangen neu hyd yn oed ymgyrch i ostwng pŵer yr ysgol gyfan, a allai annog athrawon i fynd allan o'r ystafell ddosbarth.
Pwy ydych chi eisiau eu cynnwys yn yr ymgyrch? A fyddwch chi'n cynnwys yr holl ddisgyblion neu ddim ond un grŵp blwyddyn? Ydych chi eisiau i holl oedolion yr ysgol ymuno. A fyddwch chi'n cynnwys rhieni/gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol?
Meddyliwch sut fyddwch chi'n hyrwyddo hyn - bydd posteri ar waliau a gwybodaeth yng nghylchlythyr yr ysgol yn sicrhau bod pawb yn gwybod am y digwyddiad ac yn barod amdano!
Pa mor hir fydd y digwyddiad yn para? Awr? Prynhawn? Diwrnod neu wythnos gyfan?
Beth fydd eich effaith? Cofiwch gymharu eich defnydd trydan neu nwy ar gyfer eich ddigwyddiad gyda chyfnod 'arferol'. Faint o wahaniaeth wnaeth eich ymgyrch i eich defnydd?
Peidiwch ag anghofio dweud wrth eraill yr hyn wnaethoch chi! Anfonwch lun neu erthygl i'r papur newydd lleol. Rhannwch yr hyn rydych chi wedi'i wneud gydag ysgolion eraill yn yr ardal neu ymddiriedolaeth aml-academi. Rhowch wybod inni ar Twitter!
Beth am gynnal 'Diwrnod Diffodd' pan fydd ysgol yn ceisio treulio diwrnod heb ddefnyddio trydan. Trwy ddiffodd cyfarpar trydanol am un diwrnod, gelli annog disgyblion a staff i feddwl am faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio (a'i wastraffu) a chanfod ffyrdd o ostwng defnydd nwy eich ysgol.
Eitemau i'w diffodd: Golau, Cyfrifiaduron, Byrddau Gwyn, Monitorau, Argraffyddion, Llungopiwyr, Taflunyddion, Lamineiddwyr, Systemau Sain, Microdonau, Tegellau, Tostwyr. Gallwch chi ystyried gofyn i staff arlwyo ostwng eu defnydd ynni trwy wneud cinio a byrbrydau oer/picnic.
Cam 1: Archwiliwch eich ysgol i weld faint o gyfarpar trydanol sy'n cael eu defnyddio. Pa rai y gellid eu diffodd am y diwrnod? Cam 2: Dywedwch wrth bawb am y Diwrnod Diffodd. Esboniwch y rhesymau dros ei wneud. Cam 3: Penderfynu pa gyfarpar fydd yn cael eu diffodd. Efallai y bydd eithriadau e.e. efallai y bydd angen i staff swyddfa ddefnyddio ffonau a chyfrifiaduron. Dylid eu labelu yn hanfodol i sicrhau nad ydynt yn cael eu diffodd. Cam 4: Cynlluniwch wersi a gweithgareddau heb drydan am y diwrnod. Efallai y bydd angen creu amserlen ar gyfer ardaloedd ac adnoddau awyr agored. Cam 5: Bydd yn rhaid lledaenu'r neges ac atgoffa eraill am eich ddiwrnod diffodd trwy ddefnyddio gwasanaethau, posteri, cylchlythyron a blogiau er mwyn dweud wrth blant ac oedolion.
Cynnal Awr Dim Ynni pan fydd pob defnydd trydan a nwy yn dod i stop ar draws yr ysgol. Efallai y bydd yn rhaid i chi wirio gyda'ch adran gymorth TG am effaith ar weinyddion, ac amserlennu awr Dîm Ynni er mwyn i staff swyddfa allu cynllunio tasgau eraill, ac i osgoi amser paratoi prydau yng nghegin yr ysgol. Mae rhai ysgolion yn gweld bod awr olaf y diwrnod ysgol yn gweithio'n dda. Sicrhau bod drysau a ffenestri ar gau er mwyn cadw gwres.
Beth am ‘Her Clwb 100’, lle mae teuluoedd yn cael eu herio i ostwng eu defnydd trydan i lai na 100kWh yr wythnos. Mae'r rhai sy'n llwyddiannus yn cael eu dathlu yn y gwasanaeth ac yn derbyn tystysgrif arbennig wedi'i gynllunio gan ddisgyblion. Gallwch hefyd gael ’clwb 50’ ar gyfer arch-arbedwyr. Mae'r her hon yn cyfathrebu neges gref i'r ysgol ac yn y cartref y gallwn arbed arian a'r amgylchedd os byddwn yn gostwng ein hynni. Gall disgyblion fonitro defnydd ynni teuluoedd trwy eu mesuryddion Clyfar cartref, neu trwy gymryd darlleniadau mesurydd â llaw ar ddechrau a diwedd yr wythnos.
Beth am gynnal diwrnod neu wythnos Caru eich Siwmper neu Troi'r Pŵer i Lawr Gwisgo Mwy o Haenau, lle bydd tymereddau'r ystafell ddosbarth yn cael eu troi i lawr i 18C, a gofynnir i bawb ddod i mewn i'r ysgol yn gwisgo siwmper, cardigan, crys chwys neu fleece y maen nhw'n teimlo'n gyfforddus yn ei wisgo dan do. Gall gwisgo siwmper rhoi 3C ychwanegol o wres i chi, ac am bob 1C rydych chi'n gostwng tymheredd yr ystafell ddosbarth byddwch chi'n arbed tua 10% o gostau gwresogi i'r ysgol. Ar gyfartaledd, mae ysgol gynradd yn defnyddio tua £5,000 o nwy y flwyddyn. Meddyliwch am faint y gallwch chi arbed, pe byddai modd gostwng tymheredd eich ysgol gan 2C.
Cam 1: Monitrwch dymereddau ystafell ddosbarth am wythnos cyn yr Wythnos Caru eich Siwmper. Cofnodwch faint o blant ac athrawon sy'n gwisgo siwmperi neu debyg yn yr ystafell ddosbarth yn yr un wythnos. Cam 2: Dywedwch wrth bawb am yr wythnos Caru eich Siwmper . Esboniwch y rhesymau dros ei wneud. Cam 3: Addaswch thermostat gwres ar ddechrau'r wythnos. Cam 4: Monitrwch dymereddau ystafell ddosbarth yn ystod yr wythnos, a'i gymharu â defnydd ynni gan ddefnyddio siartiau Sbarcynni. Cam 5: Rhannwch faint o ynni gafodd ei arbed yn ystod yr wythnos gan ddefnyddio gwasanaethau, posteri, cylchlythyron a blogiau i roi gwybod i blant ac oedolion. Cam 6: Cytunwch ar bolisi hirdymor ar gyfer tymereddau ystafell ddosbarth.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor