After reflecting on which areas of the school do not follow the switch off programme as much, students are carrying out more spot checks to ensure they are switched off at the end of the day.
Disgrifiad o'r gweithgaredd
Rydych chi wedi gwneud rhai newidiadau i ddefnydd ynni eich ysgol. Nawr yw'r amser i weld yr effaith rydych chi wedi'i chael.
Mae sawl ffordd o wneud hyn.
Yn gyntaf, os ydych chi wedi cynnal hapwiriad (e.e. goleuadau ac offer amser egwyl, amser cinio neu ar ôl ysgol, tymheredd, a yw pobl yn gwisgo dillad cynnes neu os yw drysau a ffenestri ar agor mewn tywydd oer), ailadroddwch hyn. Beth ydych chi'n ei ddarganfod? A oes gwelliant yn gyffredinol? A oes rhai mannau lle nad yw'r neges arbed ynni wedi cyrraedd, neu a oes rhesymau eraill i'r meysydd hynny beidio â chydymffurfio?
Nesaf gwiriwch y data.
Cymharwch y siart ar gyfer yr wythnos cyn eich ymyriad â'r siart ar gyfer yr wythnos wedyn. A oes gwahaniaeth? Yn olaf, os ydych chi wedi gosod targed i leihau eich defnydd o ynni, adolygwch eich cynnydd. Gallwch chi ddod o hyd i ddolen i hwn ar y Dangosfwrdd Oedolion.
Peidiwch â phoeni os na welwch chi unrhyw newidiadau ymddygiad neu ddata eto. Atgoffwch bawb am y neges arbed ynni - efallai y byddwch chi am wneud hyn drwy bosteri, arddangosiadau, neu wasanaethau. Yna gwiriwch eto.
Os gwnaethoch chi weld newidiadau - gadewch i bawb wybod amdano hefyd! Dathlwch eich gwaith caled!
Mae hwn yn gyfle da i adolygu eich gweithredoedd. Beth aeth yn dda? Beth nad oedd yn llwyddiannus? A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau? Sut wnaethoch chi eu goresgyn? Beth fyddwch chi'n ei wneud yr un peth y tro nesaf a beth fyddwch chi'n ei newid?
Gwnwch wirio yn rhan reolaidd o'ch gwaith Tîm Ynni fel y gallwch chi weld yn syth yr effaith rydych chi'n ei chael ar ddefnydd ynni ac allyriadau carbon eich ysgol. Cofnodwch hwn bob tro i ennill pwyntiau!
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i Sbarcynni weithio. Hoffem hefyd ddefnyddio cwcis dadansoddol fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth a gwneud gwelliannau.
Dysgu rhagor